Trwydded Esgusodeb Parcio

Cais am drwydded esgusodeb parcio

Mae’r drwydded esgusodeb yn rhoi caniatâd i chi barcio lle nad ydi hi’n bosib gwneud trefniadau arall achos:

  • fod llwytho a dadlwytho yno wedi cael ei wahardd neu nad ydi’r cyfnod sy’n cael ei ganiatáu yn ddigonol
  • neu fod sefyllfaoedd lle byddai trefniadau arall ddim yn foddhaol.

Nid yw esgusodeb yn caniatáu parcio cyffredinol. Nid yw'n rhoi caniatâd i'r cerbyd aros yn yr ardal sydd wedi ei wahardd ar ôl i’r cyfnod ddod i ben. Mae'n rhaid i'r modurwr barcio yn rhywle arall wedi hynny.

Talu

Ffôn: Ffoniwch 01766 771 000 i dalu gyda cherdyn debyd neu gredyd

Post: Gallwch amgáu’r ffi berthnasol gyda’r ffurflen gais (siec yn daladwy i Cyngor Gwynedd)

Noder: Ni fydd ad-daliad os fydd cais yn aflwyddiannus.