Gallwch brynu Tocyn Parcio Gwynedd er mwyn  parcio ym meysydd parcio arhosiad hir y Cyngor.

Prynu Tocyn Parcio Gwynedd ar-lein (yn agor mewn tab newydd)

(Rhaid creu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)

Gallwch hefyd brynu Tocyn Parcio Gwynedd dros y ffôn neu wyneb yn wyneb:

Gweld telerau ac amodau yn bodoli


Pris:

  • Tocyn 6 mis: £72.50
  • Tocyn 12 mis: £145

Lle gallwch chi ddefnyddio'r tocyn

Mae'r tocyn yn gadael i chi barcio ym meysydd parcio arhosiad hir Cyngor Gwynedd:

Os ydych dros 60 oed, cewch barcio yn y meysydd parcio arhosiad byr hefyd - hyd at 2 awr mewn cyfnod o 24 awr:


Adnewyddu tocyn parcio Gwynedd

Byddwn yn cysylltu efo chi pan fydd yn amser i chi adnewyddu eich tocyn. Gallwch adnewyddu 28 diwrnod cyn i’ch tocyn cyfredol ddod i ben.

Os oeddech wedi prynu eich tocyn presennol ar-lein, gallwch ei adnewyddu ar-lein.
Tocyn Parcio Gwynedd – adnewyddu ar-lein

Os ydych angen gwneud unrhyw newid i’r tocyn (e.e. newid math y tocyn), peidiwch â defnyddio’r ffurflen adnewyddu – dechreuwch gais newydd.


Wedi colli eich tocyn

Os ydych wedi colli eich tocyn mae’n bosib prynu un newydd am £20.

Os oeddech wedi prynu’r tocyn ar-lein gallwch brynu’r tocyn newydd ar-lein.
Tocyn Parcio Gwynedd – tocyn yn lle un sydd ar goll

Fel arall, ffoniwch 01766 771000


Mwy o wybodaeth

Neu ffoniwch 01766 771000.