Telerau ac Amodau - Tocyn Parcio Ymwelwyr

  1. Rhaid i’r ymgeisydd am Drwydded Parcio Ymwelwyr fod yn byw yn un o’r cyfeiriadau sydd wedi eu rhestru ar Trwydded Parcio Trigolion (yn agor mewn tab newydd)
  2. I gadarnhau bod yr ymgeisydd am Drwydded Parcio Ymwelwyr yn byw yn y cyfeiriad sydd wedi ei nodi ar y ffurflen byddwn yn gwirio’r wybodaeth yn erbyn y gofrestr etholwyr lawn. Efallai y byddwn yn gofyn am dystiolaeth ychwanegol os nad ydi’r enw / cyfeiriad yn cyd-fynd â’r wybodaeth yr ydym ni yn ei ddal.
  3. Mae Trwyddedau Parcio Ymwelwyr yn cael eu gwerthu mewn llyfr o 10.
  4. Mae’n bosib prynu hyd at 5 llyfr ar y tro.
  5. Bydd pob trwydded yn ddilys am 24 awr yn unig.
  6. Dim ond os bydd y drwydded wedi’i chwblhau’n gywir y bydd yn ddilys.
  7. Rhaid arddangos y drwydded ar ffenestr flaen y cerbyd, gan sicrhau bod yr holl wybodaeth yn weladwy o’r tu allan. Mae peidio ag arddangos y drwydded yn drosedd ac efallai y byddwch yn derbyn Rhybudd Tâl Cosb.
  8. Dim ond o fewn yr ardal a nodir ar y tocyn y mae’r drwydded yn caniatáu i chi barcio a rhaid i bob cerbyd cael ei barcio yn gyfochrog ag ochr y ffordd.
  9. Nid yw’r drwydded yn gwarantu y bydd lle parcio ar gael i chi, nac yn rhoi hawl agored i le parcio.
  10. Ni ddylai’r cerbyd fod yn fwy na 5.25m o hyd. Mae angen esgusodeb parcio i barcio cerbydau mwy o fewn yr ardal gyfyngedig.
  11. Ni fydd gan y Cyngor unrhyw atebolrwydd pe byddai unrhyw gerbyd neu’i offer yn cael ei ladrata neu ddifrodi mewn lle parcio.
  12. Gall swyddogion yr heddlu neu swyddogion gydag awdurdod y Cyngor ddiddymu hawl i ddefnyddio mannau parcio.
  13. Gall unrhyw wybodaeth ffug neu anghywir annilysu Trwydded parcio Ymwelwyr.
  14. Yn unol â’r Rheoliadau Gwerthu Pellter mae gennych saith diwrnod gwaith o dderbyn y telerau ac amodau i ganslo’r archeb. Bydd rhaid dychwelyd y tocyn parcio cyn y bydd ad-daliad yn cael ei roi. Ar ôl saith diwrnod gwaith, ni roddir ad-daliad.