Parcio peryglus / anystyriol ar y ffordd

Gall parcio gael ei ystyried yn beryglus neu’n anystyriol os yw cerbyd:

  • Yn rhwystro'r ffordd neu'n achosi rhwystr i ddefnyddwyr eraill y ffordd
  • Yn rhwystro mynediad i eiddo, dreif neu fynedfa
  • Wedi'i barcio'n rhy agos at gyffordd (fel arfer o fewn 10 metr)
  • Wedi'i barcio ar y droedffordd neu ran arall o'r briffordd mewn ffordd sy'n creu perygl neu sy'n rhwystro cerddwyr
  • Yn amharu ar welededd neu ddiogelwch defnyddwyr eraill y ffordd.

Sut i roi gwybod am barcio peryglus

Mae parcio peryglus neu anystyriol yn fater i'r Heddlu ac nid i Gyngor Gwynedd.

Os ydych yn dymuno rhoi gwybod am gerbyd sydd wedi'i barcio'n beryglus neu'n anystyriol, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru:

Heddlu Gogledd Cymru (yn agor mewn tab newydd)