Y Cyngor sy'n rheoli parcio ar y stryd a meysydd parcio'r Cyngor yng Ngwynedd. Os na fyddwch yn cadw at y rheolau parcio, byddwch yn derbyn dirwy (Rhybudd Talu Cosb) ar ffenestr eich cerbyd.

Yr Heddlu fydd yn rhoi dirwy i'r gyrrwr sy'n achosi rhwystr neu wedi parcio'n beryglus.

Talu dirwy parcio

Mae Partneriaeth Prosesu Cosbau Cymru yn prosesu dirwyon parcio (rhybuddion talu cosb) yng Ngwynedd. Gallwch dalu'r dirwy ar-lein trwy fynd i wefan PPCC

Talu dirwy parcio ar-lein (yn agor mewn tab newydd)

Neu, gallwch dalu gyda cherdyn credyd neu debyd drwy ffonio llinell dalu Partneriaeth Prosesu Cosb Cymru: 0845 6056556. Neu, gallwch dalu wyneb yn wyneb yn unrhyw Swyddfa Bost.

Am ragor o wybodaeth am barcio yng Ngwynedd, cysylltwch â ni ar 01766 771000.