Gwaharddiadau parcio (e.e. llinellau melyn dwbl)

Os ydych yn poeni am lif traffig neu barcio amhriodol neu beryglus, mae’n bosib gwneud cynnig i waharddiadau parcio gael eu cyflwyno (e.e. llinellau melyn dwbl).

Wrth wneud cynnig am waharddiad parcio, bydd angen ystyried:

  • A oes pryder gwirioneddol am ddiogelwch neu lif traffig, gyda rhesymeg gyfreithiol gadarn
  • Ydi’n broblem yn un achlysurol neu’n barhaus
  • A fydd y cyfyngiadau newydd yn creu problem debyg neu waeth mewn ardal gyfagos
  • Effaith debygol y cyfyngiadau ar ymddygiad gyrwyr
  • Disgwyliadau realistig o ran gorfodaeth yn yr ardal

Bydd unrhyw gynnig am waharddiad parcio yn agored i ymgynghoriad cyhoeddus, sy’n golygu bod gan aelodau’r cyhoedd yr hawl i wrthwynebu.

Gwneud cais am waharddiad parcio

Rhaid i unrhyw gais ddod trwy eich Cynghorydd Lleol a'r Cyngor Cymuned. Cysylltwch â nhw i gyflwyno cynnig:

Cysylltu â'ch CynghoryddCysylltu â'ch Cyngor Tref / Cymuned