Unedau busnes newydd ym Mharc Busnes Eryri ar fin cael eu cwblhau

Logo Gwynedd
Uned y Wasg, Cyngor Gwynedd

Mae gwaith adeiladu deg uned fusnes newydd ym Mharc Busnes Eryri ym Minffordd, ger Penrhyndeudraeth, ar fin cael ei gwblhau, gan greu safleoedd modern, sero net i fusnesau lleol, ac mae gwahoddiad iddyn nhw ddod i weld yr unedau newydd mewn bore agored.

Mae’r datblygiad, sydd werth £3 miliwn, wedi’i gyflawni ar y cyd gan Gyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru mewn ymateb uniongyrchol i’r prinder safleoedd busnes addas yn yr ardal a’r galw gan fusnesau lleol.

Bydd pedwar adeilad newydd yn darparu deg uned hyblyg eu maint, yn amrywio o 70m² i 100m², gan gynnig safleoedd addas i fusnesau sydd am sefydlu neu ehangu yn yr ardal. Bydd yr unedau’n sero net o ran eu defnydd o ynni, gyda phaneli solar a systemau pympiau gwres o’r aer wedi’u gosod. Bydd y nodweddion hyn yn helpu i leihau costau ynni i denantiaid ac yn cefnogi ymateb y Cyngor i newid hinsawdd.

Er mwyn rhoi cyfle i fusnesau ymweld â’r safle a gweld yr unedau newydd, cynhelir bore agored anffurfiol ym Mharc Busnes Eryri yn ddiweddarach y mis hwn.

Cynhelir y sesiwn rhwng 8:30yb ac 11:30yb ar 29 Medi. Bydd ymwelwyr yn gallu gweld un o’r unedau a siarad â swyddogion Cyngor Gwynedd am y prosiect.

Nid oes angen apwyntiad a gall unigolion alw heibio unrhyw bryd yn ystod y sesiwn.

Dywedodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd:

Mae’r unedau newydd hyn yn ymateb ymarferol i’r galw rydym wedi’i weld gan fusnesau am safleoedd addas yn y rhan hon o Wynedd, ac rwy’n falch o’u gweld ar fin cael eu cwblhau.

Drwy gydweithio â Llywodraeth Cymru, rydym wedi gallu buddsoddi mewn safleoedd modern, hyblyg ac effeithlon o ran ynni a all gefnogi busnesau wrth iddynt sefydlu neu dyfu.

Bydd y bore agored yn rhoi cyfle i fusnesau gael gweld y lle, gofyn cwestiynau ac ystyried a allai un o’r unedau ddiwallu eu hanghenion. Edrychaf ymlaen at weld y datblygiad yn dod yn gartref i amrywiaeth o fusnesau ac yn cyfrannu at yr economi a’r gymuned leol am flynyddoedd i ddod.”

Bydd yr unedau’n cael eu gosod drwy broses gystadleuol a’u rheoli gan dîm Tir ac Eiddo Cyngor Gwynedd.

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn cefnogi busnesau sy'n dangos arloesedd, yn targedu marchnadoedd gwerth uwch ac yn mabwysiadu dulliau newydd neu greadigol sy'n gwella twf busnes, cystadleurwydd a chynaliadwyedd hirdymor.

Am ragor o wybodaeth am y datblygiad, y bore agored neu’r broses osod, cysylltwch â stadau@gwynedd.llyw.cymru

Mae'r prosiect hwn yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Twf Lleol y DU yng Nghymru, gyda'r cyllid yn cael ei ddarparu drwy Cyngor Gwynedd.