Pontŵn pysgota masnachol newydd wedi'i osod yn Harbwr Pwllheli

Logo Gwynedd
Uned y Wasg, Cyngor Gwynedd

Bydd pysgotwyr masnachol ym Mhwllheli yn elwa ar gyfleusterau harbwr gwell yn dilyn gosod pontŵn pysgota masnachol newydd yn yr harbwr.

Cyflawnwyd y prosiect gwerth £62,595 gan Gyngor Gwynedd gyda chymorth cyllid grant gan Llywodraeth Cymru, gyda'r nod o gryfhau sectorau morwrol, pysgodfeydd a dyframaethu Cymru.

Mae'r pontŵn newydd wedi'i ddylunio'n benodol i ddiwallu anghenion gweithredol y fflyd bysgota fasnachol, gan ddarparu seilwaith modern, diogel ac effeithlon i gefnogi gweithgareddau dyddiol pysgotwyr lleol. Mae'n disodli pontynau hŷn nad oeddent erioed wedi'u bwriadu ar gyfer defnydd pysgota masnachol, gan eu bod wedi'u hailddefnyddio o leoliadau eraill flynyddoedd lawer yn ôl.

Mae'r buddsoddiad hwn yn gam pwysig ymlaen i sicrhau bod Harbwr Pwllheli yn parhau i ddiwallu anghenion y diwydiant pysgota lleol, gan gefnogi cynaliadwyedd hirdymor y sector a'r cymunedau arfordirol sy'n dibynnu arno.

Cafodd y gwaith gosod ei gynllunio a'i reoli'n ofalus er mwyn lleihau unrhyw darfu ar ddefnyddwyr yr harbwr ac i sicrhau bod y cyfleuster newydd yn bodloni gofynion ymarferol cychod pysgota sy'n gweithio. Mae'r pontŵn bellach yn gwbl weithredol ac ar gael i'w ddefnyddio gan y fflyd bysgota fasnachol.

Mae rhaglen ariannu Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiectau sy'n annog twf cynaliadwy, yn gwella gwydnwch ac yn cryfhau effeithlonrwydd gweithredol ar draws sectorau morol a physgodfeydd Cymru.

Dywedodd y Cyng. R. Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd:

Mae'r diwydiant pysgota yn parhau i fod yn rhan bwysig o'n heconomi arfordirol a'n treftadaeth. Rydym yn falch ein bod wedi sicrhau cyllid i gyflawni'r gwelliant hwn y mae mawr ei angen ar gyfer pysgotwyr masnachol ym Mhwllheli.

Mae'r pontŵn newydd hwn yn darparu seilwaith modern a fydd yn helpu busnesau lleol i weithredu'n fwy diogel ac effeithlon, gan ddangos ein hymrwymiad i gefnogi dyfodol yr harbwr a'r bywoliaethau y mae'n eu cynnal."

Dywedodd Sarah Hattle, Rheolwr Hafan a Harbwr Pwllheli:

Mae’r pontŵn yma wedi sicrhau’r dyfodol ar gyfer pysgotwyr masnachol a’r gymuned forwrol yma yn ardal Pwllheli.”