Gall pobl Porthmadog a’r fro fwynhau cerdded a beicio mewn llecyn braf gyda golygfeydd godidog o’r Afon Glaslyn a Llyn Bach, diolch i fuddsoddiad gan Gyngor Gwynedd
Fel rhan o waith adfywio’r dref, mae’r estyniad i’r llwybr cerdded a beicio Cob Crwn, Porthmadog bellach ar agor at ddefnydd y cyhoedd.
Ariannwyd y cynllun drwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac fe’i datblygwyd a’i wireddu ar y cyd gan Adran Economi, Amgylchedd a YGC Cyngor Gwynedd, er mwyn gwella’r cyfleusterau hamdden a hygyrch yng nghanol y dref, ynghyd a gwella rhwydwaith teithiau llesol yn y dref.
Er bod y llwybr bellach ar agor i’r cyhoedd, bydd peth gwaith i gwblhau’r prosiect dal i fynd yn ei flaen dros yr wythnosau nesaf.
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd y Cyngor sydd hefyd yn aelod lleol dros yr ardal hon o Borthmadog:
Mae’n braf iawn gweld estyniad llwybr Cob Crwn bellach ar agor i’r cyhoedd. Mae’r ardal hon yn ardal bwysig i drigolion Porthmadog ac mae’r gwelliannau yn rhoi cyfle i fwy o bobl fwynhau’r ardal.
“Mae’n galonogol gweld buddsoddiad yn ein tref yn arwain at welliannau ymarferol i’r gymuned, ac yn cyfrannu at y gwaith o adfywio’r dref.
“Mae bwriad i gynnal agoriad swyddogol i ddathlu’r gwaith a dwi’n annog pobl leol fyddai’n dymuno mynychu i gadw golwg am fwy o fanylion fydd yn cael eu cyhoeddi yn fuan.”
Dywedodd Cynghorydd R. Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Economi a Chymuned:
“Mae’n wych gweld y llwybr bellach ar agor ac ar gael i’r gymuned. Mae buddsoddi mewn mannau cyhoeddus, gwella cysylltiadau a chreu cyfleoedd i bobl gerdded a beicio yn rhan bwysig o wneud ein trefi yn lleoedd deniadol a hygyrch i fyw, gweithio ac ymweld.”