Wrth i dymor prysur yr haf ddechrau, mae Cyngor Gwynedd a’i bartneriaid yn annog trigolion ac ymwelwyr i gynllunio ymlaen llaw a chwarae eu rhan i helpu pawb i fwynhau’r sir yn ddiogel ac yn gyfrifol.
Mae Gwynedd ac Eryri yn denu miloedd o bobl bob blwyddyn i fwynhau ei thraethau, mynyddoedd, llwybrau cerdded ac atyniadau unigryw. Er mwyn sicrhau profiad cadarnhaol i bawb, bydd y Cyngor yn parhau i gydweithio’n agos gyda phartneriaid gan gynnwys Heddlu Gogledd Cymru a Pharc Cenedlaethol Eryri i hyrwyddo ymddygiad cyfrifol ac i ddiogelu cymunedau lleol a’r amgylchedd naturiol.
Mae’r neges i unrhyw un sy’n ymweld â Gwynedd yr haf hwn yn syml - cynllunio ymlaen llaw, teithio’n gyfrifol a pharchu’r ardal a’i phobl.
Negeseuon pwysig i ymwelwyr:
- Cynlluniwch eich ymweliad ymlaen llaw - trefnwch eich gweithgareddau cyn teithio, a gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio rhagolygon y tywydd, amseroedd llanw lle bo’n berthnasol, ac unrhyw wybodaeth ddiweddaraf am y mannau rydych yn bwriadu ymweld â nhw.
- Gwiriwch lwybrau cyn cychwyn - gall cyflwr rhai llwybrau newid oherwydd y tywydd neu waith cynnal a chadw. Cyn mentro allan, edrychwch am unrhyw wyriadau neu gyfyngiadau a chynlluniwch eich taith yn ofalus. Ystyriwch wneud defnydd o rwydwaith y Lonydd Glas - adnodd gwych sy’n addas ar gyfer pob tywydd.
- Parciwch yn gyfrifol - defnyddiwch feysydd parcio swyddogol, os nad oes lle - chwiliwch am faes parcio arall. Gall cerbydau sydd wedi’u parcio’n anghyfrifol rwystro ffyrdd a chreu problemau i wasanaethau brys a defnyddwyr eraill y ffordd. Mae manylion meysydd parcio Cyngor Gwynedd ar gael ar: www.gwynedd.llyw.cymru/parcio
- Defnyddiwch safleoedd addas ar gyfer cartrefi modur - mae safleoedd Arosfan penodol ar gael ar gyfer aros dros nos mewn cartrefi modur ac mae safleoedd gwersylla swyddogol ar gael. Ceir rhagor o wybodaeth ar: www.gwynedd.llyw.cymru/arosfan
- Ystyriwch ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus - gall gwasanaethau bws lleol helpu i leihau tagfeydd traffig a’r pwysau ar gymunedau poblogaidd. Mae amserlenni gwasanaethau, gan gynnwys Sherpa’r Wyddfa, ar gael ar: www.gwynedd.llyw.cymru/bws
- Parchwch gymunedau lleol a’r amgylchedd - dilynwch arwyddion a rheoliadau lleol, peidiwch â gadael sbwriel ar ôl, a defnyddiwch finiau cyhoeddus lle maent ar gael - neu ewch a’ch sbwriel adref. Dylai perchnogion cŵn sicrhau eu bod yn codi ac yn gwaredu gwastraff eu hanifeiliaid anwes yn briodol.
Drwy gynllunio ymlaen llaw a dangos ystyriaeth at eraill, gall pawb helpu i sicrhau bod Gwynedd yn lle croesawgar a diogel i’w fwynhau drwy gydol yr haf.
Dywedodd y Cyng. R. Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd:
Mae'r haf yn gyfnod i fwynhau popeth sydd gan Wynedd i'w gynnig, boed hynny ar ein traethau, yn ein cymunedau neu wrth fwynhau gweithgareddau awyr agored. Wrth i ni wneud hynny, mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn cymryd camau syml i gadw ein hunain, ein teuluoedd ac eraill yn ddiogel ac i barchu ein cymunedau a’n rhinweddau arbennig.
Drwy gynllunio ymlaen llaw, dilyn cyngor diogelwch a bod yn ymwybodol o'r risgiau posibl, gallwn sicrhau haf diogel a phleserus i bawb.
Rydym yn annog trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd i gymryd cyfrifoldeb personol a helpu i wneud Gwynedd yn lle diogel i'w fwynhau dros fisoedd yr haf."
Mae rhagor o wybodaeth am ymweld ag arfordir Gwynedd yn ddiogel ar gael yma: www.ymweldageryri.info/cy/cynllunio-eich-ymweliad a Pharc Cenedlaethol Eryri: www.eryri.llyw.cymru/ymweld/cynllunio-eich-ymweliad/
Meddai’r Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd:
Gyda niferoedd cynyddol o bobl yn ymweld â mannau poblogaidd yma yng Ngwynedd, mae’n bwysig fod ymwelwyr yn ymddwyn yn barchus ac yn sicrhau eu bod yn cynllunio’u hymweliadau o flaen llaw.
Mae gennym rwydwaith drafnidiaeth gyhoeddus ar gael, gan gynnwys bws Sherpa’r Wyddfa sy’n cysylltu llwybrau poblogaidd Yr Wyddfa gyda’r trefi a’r pentrefi cyfagos, gan gynnwys bws rhwng Llanberis a Pen y Pass sy’n rhedeg bob hanner awr. Mae manylion am yr holl wasanaethau bws cyhoeddus yng Ngwynedd ar gael ar y wefan www.gwynedd.llyw.cymru/cludiant yn ogystal â manylion am leoliadau meysydd parcio www.gwynedd.llyw.cymru/parcio.
Rwyf hefyd yn annog unrhyw un sy’n bwriadu cerdded ein llwybrau cyhoeddus, gan gynnwys Llwybr Arfordir Cymru i wirio’r wybodaeth ddiweddaraf cyn cychwyn. Mae’r tywydd gwael y gaeaf diwethaf wedi effeithio ar gyflwr nifer o’r llwybrau, a mae rhai wedi gorfod cau neu eu hailgyfeirio dros dro.
Cofiwch ei bod yn hynod bwysig fod ein ffyrdd yn glir i ganiatáu’r gwasanaethau brys wneud eu gwaith ac i sicrhau bod traffig yn llifo’n ddiogel. Rydym yn gofyn i fodurwyr barcio’n synhwyrol, parchu’r cyfyngiadau parcio a chadw’r ffyrdd yn ddi-rwystr. Fel Cyngor, rydym yn parhau i gydweithio’n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru a Pharc Cenedlaethol Eryri i fonitro’r tueddiadau parcio ac i gadw’r cyhoedd yn ddiogel ar y ffyrdd.”
Dywedodd Jonathan Cawley, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:
Mae Eryri yn dirwedd sy'n werth ei gwarchod ac yn lle sy'n rhoi profiadau arbennig i filiynau o bobl bob blwyddyn. Rydym yn annog pawb sy'n ymweld â'r Parc Cenedlaethol yr haf hwn i gynllunio ymlaen llaw, gwneud penderfyniadau cyfrifol a dangos parch at natur ac ein cymunedau lleol.
Yn ystod misoedd yr haf, mae rhai o'n cyrchfannau mwyaf poblogaidd yn gallu cyrraedd eu capasiti yn gynnar yn y dydd. Os yw maes parcio'n llawn, peidiwch â pharcio ar ymylon ffyrdd nac mewn mannau sy'n rhwystro mynediad i drigolion, ffermwyr neu'r gwasanaethau brys. Yn hytrach, defnyddiwch faes parcio arall a gwneud defnydd o drafnidiaeth cyhoeddus neu ystyriwch ymweld â lleoliad gwahanol. Mae gan Eryri gymaint i'w gynnig, ac yn aml mae'r mannau llai prysur yr un mor arbennig.
Rydym hefyd yn annog ymwelwyr i gael cynllun wrth gefn. Gall y tywydd newid yn sydyn, gall llwybrau gael eu cau dros dro, neu gall safleoedd prysur fod yn llawn. Bydd bod yn hyblyg a pharod i newid eich cynlluniau yn helpu i sicrhau profiad mwy diogel a mwy pleserus i bawb.”
Dywedodd yr Uwcharolygydd Arwel Hughes:
Wrth i ni edrych ymlaen at haf prysur arall yng Ngwynedd i gyd, ‘da ni’n annog trigolion ac ymwelwyr wneud diogelwch yn flaenoriaeth pryd bynnag fyddan nhw’n mwynhau’r awyr agored.
Mae tanau gwyllt diweddar a digwyddiadau yn ymwneud hefo dŵr yn ein hatgoffa ni pa mor sydyn mae sefyllfaoedd yn gallu datblygu a’r effaith a allan nhw ei gael ar unigolion, teuluoedd, cymunedau lleol a’r gwasanaethau brys. Tra ein bod ni eisiau i bawb fwynhau popeth sydd gan Wynedd i’w gynnig, ‘da ni hefyd eisiau i bobl gymryd eiliad i feddwl sut allan nhw leihau’r risgiau.
Boed eich bod yn cerdded yn y mynyddoedd, yn treulio amser ar yr arfordir, neu’n ymweld â’r llynnoedd a’r afonydd, mae amodau’n gallu newid yn gyflym. Neilltuwch amser i gynllunio ymlaen, edrych ar y tywydd a gwybodaeth am y llanw, gan wneud yn siŵr fod gynnoch chi’r offer iawn. Byddwch yn realistig ynghylch eich profiad a’ch gallu chi. O gwmpas dŵr, byddwch yn ymwybodol o’r risgiau yn deillio o gerrynt cryf a sioc mynd i ddŵr oer. Cadwch lygad barcud hefyd ar blant. Yn ystod cyfnodau o dywydd cynnes a sych, cymerwch mwy o ofal i osgoi unrhyw beth a allai gynnau tân a dilynwch unrhyw gyngor neu gyfyngiadau lleol.
Mae gan bawb gyfrifoldeb personol i wneud penderfyniadau synhwyrol ac edrych ar ôl eu hunain a’r rhai o’u hamgylch nhw. Wrth fod yn ofalus, mi fedrwn ni gyd helpu atal digwyddiadau y gellir eu hosgoi a gwneud yn siŵr fod pawb yn gallu mwynhau Gwynedd yn saff drwy gydol yr haf."
