Mae cynlluniau Cyngor Gwynedd i greu gofod diwylliannol a digwyddiadau awyr agored newydd yng nghanol Bangor wedi cymryd cam mawr ymlaen yn dilyn cyhoeddiad o gyllid sylweddol gan Lywodraeth Cymru er mwyn cefnogi cwblhau’r prosiect.
Daw’r cyhoeddiad yn yr un wythnos y bu Lywodraeth Cymru gyhoeddi sefydlu Tasglu Stryd Fawr newydd i hyrwyddo dyfodol canol trefi.
Bydd prosiect Cysylltu Storiel yn trawsnewid y mannau cyhoeddus o amgylch Storiel, gan greu gofod awyr agored pwrpasol ar gyfer digwyddiadau, perfformiadau a gweithgareddau cymunedol, wrth wella'r cysylltiad rhwng Storiel, Pontio a chanol y ddinas yn ehangach.
Bydd y prosiect yn rhan o weledigaeth i ddatblygu coridor diwylliannol cryfach drwy Fangor, gan gysylltu Eglwys Gadeiriol Bangor, y Llyfrgell, Storiel a chanolfan celfyddydau ac arloesedd Pontio i greu cyrchfan fwy cysylltiedig i drigolion, ymwelwyr a myfyrwyr.
Bydd y gwelliannau yn cynnwys ardal eistedd newydd ar ffurf amffitheatr, tirlunio, creu mynediad mwy hygyrch, seddi caffi awyr agored wedi'u huwchraddio a goleuadau newydd i gynnal digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn.
Yn ystod ymweliad â Bangor yn gynharach yr wythnos hon, cadarnhaodd Siân Gwenllian, Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio Llywodraeth Cymru, £654,000 o gyllid tuag at y prosiect drwy Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. Yn ogystal, mae cefnogaeth wedi'i sicrhau o Gronfa Effaith Balchder Bro Llywodraeth y DU a hefyd o gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU yn ystod y cyfnod dylunio.
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:
Mae hyn yn newyddion gwych i Fangor, i bobl leol ac i ymwelwyr i’r ddinas. Rydym wrth ein bodd o glywed y cyhoeddiad ac yn croesawu’r buddsoddiad o £654,000. Roeddem yn falch iawn o groesawu’r Gweinidog i Fangor ac o gael y cyfle i egluro’r cynlluniau cyffroes ar gyfer yr ardal tu allan.”
Dywedodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Economi:
Rydym wrth ein boddau gyda'r cyhoeddiad, ac roeddem yn falch iawn o groesawu'r Gweinidog i Fangor i siarad efo hi am y cynlluniau cyffrous.
Mae gan Fangor gyfleusterau rhagorol a bydd prosiect Cysylltu Storiel yn cryfhau'r cysylltiadau rhyngddynt drwy greu gofod awyr agored o ansawdd uchel sy'n cefnogi digwyddiadau, diwylliant a gweithgareddau cymunedol.
Mae'r buddsoddiad hwn yn gam pwysig arall yn adfywiad canol dinas Bangor ac edrychwn ymlaen at weld y prosiect yn symud yn ei flaen dros y misoedd nesaf.”
Y bwriad yw cwblhau’r gwaith adeiladu erbyn y gwanwyn flwyddyn nesaf. Bydd diweddariadau pellach yn cael eu rhannu wrth i'r prosiect barhau trwy'r broses gynllunio.
