Hen Ysgol Cwm y Glo i gael bywyd newydd fel hwb elusen

Logo Gwynedd
Uned y Wasg, Cyngor Gwynedd

Mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi cymeradwyo argymhelliad i roi prydles hir dymor i Fenter Fachwen, gan alluogi’r elusen i wireddu cynlluniau i ddatblygu hen safle Ysgol Cwm y Glo yn adnodd i’r elusen.

Elusen yw Menter Fachwen sydd wedi bod yn darparu cyfleoedd addysg, datblygu a hyfforddiant i unigolion ag anableddau dysgu ers bron i 40 mlynedd. Mae’r elusen bellach yn bwriadu datblygu’r safle er mwyn ymateb i anghenion a dyheadau newydd y bobl y mae’n eu cefnogi.

Y nod yw creu cyfleuster cynhwysol a chroesawgar y gall y pobl sy’n cael eu cefnogi gan yr elusen, staff a gwirfoddolwyr, yn ogystal â’r gymuned leol ehangach, ei ddefnyddio.

Ymhlith y cynlluniau i’r safle mae:

  • neuadd gymunedol
  • siop goffi
  • hwb economi cylchol (sy’n cynnwys gweithdai a banc cyfnewid dillad)
  • ystafell sensori a therapi
  • gofod hanes lleol
  • gardd gymunedol a chyfleusterau chwarae hygyrch

Bydd lle hefyd i grwpiau a gwasanaethau lleol ddefnyddio’r safle, gan greu canolfan fywiog yng nghanol y pentref. Un o brif ddibenion y datblygiad fydd ehangu cyfleoedd hyfforddiant a datblygu galwedigaethol i oedolion ag anableddau dysgu.

Dywedodd Cadeirydd yr elusen, y Cynghorydd Berwyn Parry Jones:

Mae cymryd Ysgol Cwm y Glo ymlaen yn gyfle cyffrous i adeiladu ar ein gwaith a datblygu cyfleoedd dydd a chyfleoedd gwaith newydd i bobl ag anableddau dysgu.

Rydym hefyd yn cydnabod pa mor bwysig mae’r ysgol wedi bod i gymuned Cwm y Glo dros genedlaethau. Rydym yn falch iawn o gael y cyfle i roi pwrpas newydd i’r adeilad, ac rydym am sicrhau bod ei ddyfodol yn parhau i fod yn gadarn o fewn y gymuned leol.

Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r bobl rydym yn eu cefnogi, y Cyngor a’r gymuned leol wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau ar gyfer Ysgol Cwm y Glo.

Hoffem ddiolch i Gyngor Gwynedd am gefnogi datblygiad yr elusen ac am gydnabod y potensial sydd gan Ysgol Cwm y Glo i barhau i wneud cyfraniad positif i rheini sy’n derbyn cefnogaeth gan yr elusen a’r ardal.”

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Dai ac Eiddo Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Paul Rowlinson:

Mae cynlluniau Menter Fachwen i’r hen ysgol yn cynnig cyfle gwych i greu buddion hirdymor i’r gymuned leol, a dw i’n falch iawn bod y Cyngor yn gallu chwarae rhan drwy gynnig prydles hir dymor iddynt am swm enwol.

Bydd y datblygiad yn ehangu gwaith gwerthfawr Menter Fachwen dros flynyddoedd lawer gydag oedolion ag anableddau dysgu. Bydd yn creu cyfleoedd cyffrous i bobl ac yn darparu gofod i’r gymuned ddod at ei gilydd. Bydd y prosiect yn dod â bywyd newydd i adeilad yr hen ysgol yng nghanol Cwm-y-glo fel ased i’r gymuned gyfan.”