Bydd Gŵyl Arfordir Llŷn yn dychwelyd ym mis Medi 2026 gyda rhaglen gyffrous o weithgareddau a digwyddiadau wedi’u cynllunio i ddod â phobl ynghyd i ddarganfod, dathlu a chysylltu ag arfordir unigryw Pen Llŷn.
Ar ôl seibiant, mae’r ŵyl yn dychwelyd gyda chyfle i bobl o bob oed gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau sy’n dathlu treftadaeth forol hanesyddol a chyfoes yr ardal. Drwy gydol y mis, bydd digwyddiadau’n cael eu cynnal ledled yr arfordir, gan gynnig profiadau newydd ac ysbrydoledig i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Bydd yr ŵyl yn gyfle i ddysgu mwy am arwyddocâd yr arfordir drwy deithiau tywys, sgyrsiau ac arddangosfeydd, yn ogystal â gweithgareddau cadwraeth megis glanhau traethau a monitro bywyd gwyllt.
Bydd y rhaglen hefyd yn annog pobl i fynd allan i fwynhau’r amgylchedd lleol mewn ffyrdd actif. Ymhlith y digwyddiadau fydd taith feicio, rhediad 10 km a thaith gerdded i ddechreuwyr. I’r rhai sydd am gysylltu â’r arfordir drwy gyfrwng y celfyddydau, bydd siantis môr a gweithdy celf ymhlith yr uchafbwyntiau.
Mae’r ŵyl wedi’i datblygu drwy gydweithio ag ystod eang o sefydliadau, elusennau a busnesau lleol, gan greu rhaglen amrywiol sy’n cynnig rhywbeth at ddant pawb.
Bydd yr ŵyl yn cael ei lansio gyda digwyddiad Glanhau Traethau yng Nghricieth ar 5 Medi ac yn cloi gyda Môr a Thonnau Pwllheli ar 3 Hydref.
Archwiliwch holl ddigwyddiadau’r Ŵyl yma: https://www.eventbrite.com/cc/gwyl-arfordir-llyn-4852904
Gallwch hefyd ddilyn @gwylarfordirllyn ar Instagram i gadw golwg ar yr hyn sy’n mynd ymlaen dros y mis.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch drwy e-bost: plas@gwynedd.llyw.cymru
