Mae adroddiad newydd yn dangos sut mae Cyngor Gwynedd yn gweithio gyda phobl, teuluoedd a chymunedau i helpu gyda heriau'r argyfwng costau byw.
Mae Adroddiad Blynyddol Cefnogi Pobl 2025/26 yn amlygu'r gwaith sy'n cael ei wneud ar draws y Cyngor a gyda phartneriaid i sicrhau bod pobl yn cael y cymorth, y wybodaeth a'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.
Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar dri maes: helpu pobl gyda chostau byw, datblygu cefnogaeth mwy lleol o fewn cymunedau, a sicrhau bod gwasanaethau'r Cyngor yn gweithio mewn ffordd sy'n rhoi anghenion pobl yn gyntaf.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r gwaith wedi helpu cannoedd o deuluoedd a thrigolion:
- Mae 500 o blant o dan bedair oed yng Ngwynedd yn derbyn cynnig Dechrau’n Deg (Gofal Plant am Ddim), sy’n golygu eu bod yn cael y dechrau gorau mewn addysg ac hefyd fod rhieni yn cael cefnogaeth i ddychwelyd i waith neu hyfforddiant.
- Dosbarthwyd 26,300 o becynnau bwyd drwy’r Grant Bwyd, gan sicrhau cymorth brys a hanfodol i filoedd o aelwydydd ar adeg o bwysau ariannol.
- Rhannwyd gwerth £278,000 o arian Grant Hanfodion Ysgol i deuluoedd plant ysgol yng Ngwynedd, er mwyn galluogi teuluoedd ar incwm isel i brynu pethau fel gwisg ysgol, llyfrau ac offer dysgu.
- Mae 175 o drigolion yn dychwelyd i waith ar ôl cymorth Tîm Gwaith Gwyned gyda 103 arall yn datblygu sgiliau i sicrhau gwell cyflog.
Meddai’r Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:
Dwi’n gwybod bod llawer o bobl a theuluoedd ar draws Gwynedd yn dal i wynebu heriau sylweddol yn eu bywydau bob dydd. Mae’r argyfwng costau byw, pwysau ariannol a’r effaith ar lesiant wedi cynyddu’r angen am gymorth ymarferol, caredig a theg.
Mae’r adroddiad hwn yn dangos y gwahanol ffyrdd mae Cyngor Gwynedd a phartneriaid yn cefnogi trigolion – o helpu gyda chostau bwyd ac ynni, cynyddu incwm drwy fanteisio ar fudd daliadau, cymorth gyda biliau a chyngor ariannol, i gefnogaeth gofal plant a darparu gweithgareddau a chyfleoedd am ddim i blant a phobl ifanc dros yr haf.
Mae’n bwysig cydnabod bod tlodi yn parhau i fod yn her sylfaenol yn ein cymdeithas. Mae hyn yn golygu bod y Cyngor, yn y bôn, yn ymateb i’r symptomau ac yn ceisio leihau eu heffaith ar bobl a theuluoedd.”
Gweld yr adroddiad a gyflwynwyd i Gabinet Cyngor Gwynedd a gweld yr Adroddiad Blynyddol Cefnogi Pobl Cyngor Gwynedd.
Nodiadau
Astudiaeth Achos
*Mae’r astudiaeth yma yn seiliedig ar achos go iawn yng Ngwynedd, ond er mwyn diogelu preifatrwydd unigolion, rydym wedi newid yr enwau
Stori Bethan
Mae’r Adroddiad Blynyddol Cefnogi Pobl yn egluro sut bu i Bethan gael cymorth gan wahanol wasanaethau, a bellach yn hawlio’r Credyd Pensiwn a Lwfans Gweini (Attendance Allowance) yr oedd yn gymwys amdano. Mae bywyd Bethan erbyn hyn yn fwy sefydlog ac mae ei chartref yn gynhesach ac yn fwy cyfforddus iddi hi a’i gwr.
- Daeth Bethan i gyswllt â Swyddog Lles Cyngor Gwynedd gan fod ei merch yn poeni fod ei chartref yn aml yn oer a nad oedd yn bwyta’n iawn.
- Daeth yn eglur i’r Swyddog fod Bethan wedi torri nol ei gwariant ar fwyd a gwresogi’r tŷ oherwydd y cynnydd mewn costau.
- Ar ôl cynnal asesiad cychwynnol o’i sefyllfa ariannol, daeth yn amlwg nad oedd Bethan yn derbyn yr holl gymhorthdal yr oedd yn gymwys amdano
- Oherwydd sefyllfa Bethan a’i gwr, roeddynt yn gymwys am Gredyd Pensiwn a Lwfans Gweini a rhoddwyd cefnogaeth iddynt gan CAB i gwblhau’r cais.