Mae Cyngor Gwynedd wedi cwblhau rhaglen o waith adfywio celfyddydol yn Nhywyn sy’n adlewyrchu cysylltiad hanesyddol y dref gyda’r diwydiant llechi a’i threftadaeth ddiwylliannol unigryw.
Mae’r gwaith yn cynnwys llechi llawr artistig ar y droedffordd a chelf ar ffurf wagen lechi, sydd wedi’i gosod tu allan i swyddfa’r Cyngor Tref. Mae’r wagen yn ail-gread o’r wagenni slabiau llechi a ddefnyddiwyd yn chwarel gyfagos Bryneglwys.
Ysgrifennwyd y geiriau ar ochr y wagen, a’r cerddi sydd wedi eu cerfio i’r llechi ar y droedffordd gan yr awdur o Dywyn, Manon Steffan Ros. Mae’r geiriau’n adlewyrchu hunaniaeth, hanes a chymeriad yr ardal. Maent hefyd yn creu llwybr o eiriau sy’n arwain ymwelwyr drwy stori’r dref.
Cyflawnwyd y gwaith drwy nawdd Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, ac mae’n ffurfio rhan o raglen ehangach Llewyrch o’r Llechi, sy’n cyflwyno gwelliannau i ganol trefi llechi ar draws Gwynedd mewn cysylltiad â Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru.
Mae buddsoddiadau diweddar eraill i’r dref yn cynnwys:
- gwaith ail-wynebu troedffyrdd,
- gosod meinciau clyfar ar y prom sy’n adrodd hanes y dref,
- biniau newydd o amgylch y dref,
- arwyddion newydd i gynorthwyo cerddwyr ac ymwelwyr wrth deithio o amgylch y dref.
Nod y buddsoddiadau yw cryfhau ymdeimlad o falchder lleol, gwella profiad ymwelwyr, a chreu cysylltiad cryfach rhwng y dref a’i hanes diwydiannol. Mae’r cynllun yn rhan o waith ehangach Cyngor Gwynedd i gefnogi adfywio canol trefi, gwella’r amgylchedd cyhoeddus a hyrwyddo treftadaeth llechi Gwynedd fel adnodd diwylliannol a chymunedol pwysig.
Dywedodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Economi a Chymuned:
“Mae economi ymweld er budd a lles pobl, amgylchedd, iaith a diwylliant Gwynedd ac Eryri yn greiddiol i’n Cynllun Economi Ymweld Gynaliadwy 2035, a mae’r Cyngor wedi gallu defnyddio cyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU i wella edrychiad nifer o drefi ledled Gwynedd.
Mae’r gwaith celf yma yn Nhywyn yn ychwanegu nodweddion gweledol trawiadol i’r dref ac yn cynnig ffordd greadigol o gysylltu pobl â hanes a threftadaeth Tywyn.
"Mae'n galonogol gweld bod y buddsoddiad diweddar hwn hefyd wedi ysbrydoli Cyngor Tref Tywyn i fwrw ymlaen â gwelliannau pellach yn yr ardal, a chreu man cymunedol deniadol a chanolog i’r dref, sy'n cyfrannu at ymdeimlad o falchder cymunedol ymhlith trigolion yr ardal."
Dywedodd y Cynghorydd Anne Lloyd Jones, Aelod Lleol ar gyfer Tywyn:
“Rydym yn ffodus iawn o gael nifer o welliannau yma yn Nhywyn. Mae'r rhain yn cynnwys gwaith celf gyda geiriau gan Manon Steffan Ros, sydd wedi ennyn llawer iawn o ddiddordeb, gyda nifer o ymwelwyr yn gofyn beth yw ystyr yr geiriau.
“Mae Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru UNESCO yn rhywbeth arbennig iawn. Rwy'n falch iawn o fod wedi cymryd rhan yn y prosiect yma, sy'n amlygu rôl Tywyn, Abergynolwyn a Rheilffordd Talyllyn yn natblygiad y diwydiant llechi."
Ychwanegodd Chris Wood, Clerc Cyngor Tref Tywyn:
"Mae'r gwelliannau hyn yn sicr wedi gwella golwg yr ardal, gan greu ymdeimlad cryfach o gydlyniant cymunedol a meithrin balchder lleol yn Nhywyn.
“Mae'n braf gweld darn bach o hanes yr ardal yn cael ei amlygu yng nghanol y dref, er mwyn i bobl ei weld a'i werthfawrogi."