Dweud eich dweud ar deithio llesol yng Ngwynedd

Logo Gwynedd
Uned y Wasg, Cyngor Gwynedd

Mae Cyngor Gwynedd yn awyddus clywed barn trigolion Gwynedd ar sut y gellir gwneud cerdded, olwyno a beicio yn fwy diogel, yn haws ac yn fwy hygyrch i bawb.

Mae tri prif faes i’r ymgynghoriad; cerdded, olwyno a beicio:

  • Cerdded - Os ydych yn cerdded i'r gwaith, yr ysgol, y siopau neu am dro hamdden. Helpwch ni i wneud cerdded yng Ngwynedd yn fwy diogel, cyfleus a chroesawgar i bawb.
  • Olwyno - Os ydych yn defnyddio cadair olwyn, sgwter symudedd neu gymorth symudedd arall, rydym am glywed eich profiadau. Oes rhwystrau yn eich wynebu, neu welliannau a allai wneud teithio o gwmpas Gwynedd yn haws ac yn fwy hygyrch.
  • Beicio - Os ydych yn beicio'n ddyddiol neu yn achlysurol, gall eich adborth helpu i lunio rhwydwaith beicio gwell ar gyfer y dyfodol. Rhannwch eich syniadau ar sut y gallwn greu llwybrau beicio mwy diogel, cysylltiedig a deniadol i bobl o bob oed a gallu.

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Amgylchedd:

Os ydych chi’n cerdded, beicio neu’n defnyddio cadair olwyn i deithio yn lleol, rydym eisiau clywed eich barn am sut gellir gwneud gwelliannau fyddai’n gwneud hi’n haws ac yn fwy hygyrch i bawb.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn agored i drigolion, busnesau a grwpiau cymunedol Gwynedd. Cymerwch y cyfle i ddweud eich dweud er mwyn gwneud cerdded, olwyno a beicio yng Ngwynedd yn fwy diogel, cyfleus a chroesawgar.”

Bydd yr holl sylwadau yn cael eu hystyried wrth ddatblygu a chynllunio gwelliannau i rwydwaith cerdded, olwyno a beicio Gwynedd yn y dyfodol, lle bo hynny’n bosibl ac yn ymarferol.

I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ewch i wefan Map Data Cymru: https://mapdata.llyw.cymru/survey/gwynedd-at-consultation-2026/ (yn agor mewn tab newydd).

Mae’r dudalen ar y wefan yn cynnwys map rhyngweithiol lle gellir tynnu sylw at lwybrau newydd neu welliannau posibl i lwybrau presennol.

Mae copïau papur ar gael ar gais drwy ffonio 01286 679426 neu ddanfon e-bost at ygc@gwynedd.llyw.cymru (yn agor mewn tab newydd)

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 26 Medi, 2026.

Ceir rhagor o wybodaeth am gerdded, olwyno a beicio yng Ngwynedd ar wefan y Cyngor: https://www.gwynedd.llyw.cymru/parcio-ffyrdd-a-theithio/teithio-llesol. (yn agor mewn tab newydd)