Mae datblygiad o 10 cartref fforddiadwy newydd Cyngor Gwynedd yng Nghoed Mawr, Bangor, bellach wedi cael enw swyddogol - Coed Adda, diolch i blant Ysgol y Garnedd.
Gwahoddwyd y disgyblion i gymryd rhan mewn cystadleuaeth i enwi’r datblygiad, gan gyflwyno dros 50 o awgrymiadau. Roedd nifer o’r enwau’n cyfeirio at hanes, treftadaeth a natur yr ardal, gyda’r enw Coed Adda yn cael ei ddewis - gan gyfeirio at Afon Adda sy’n llifo ger y safle.
Cyn y gwyliau haf, daeth y plant i’r safle i ddathlu a chyhoeddi’r enw newydd. Ymunodd y Cynghorydd lleol, Dewi A Roberts; y Cynghorydd Paul Rowlinson, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd; Carys Fôn Williams, Pennaeth Adran Tai ac Eiddo’r Cyngor; cynrychiolwyr o OBR Construction, a swyddogion y Cyngor â’r disgyblion ar gyfer yr achlysur.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Rowlinson, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd:
Diolch i ddisgyblion Ysgol y Garnedd, mae gan y datblygiad Tŷ Gwynedd yma bellach enw sy’n adlewyrchu’r ardal – Coed Adda. Cafwyd dros 50 o syniadau ganddyn nhw, ac rydw i wir yn gwerthfawrogi’r amser a’r ymdrech maen nhw wedi’u rhoi i feddwl am enw. Dim tasg fach oedd enwi stad newydd o dai, mae’r enw yma am fod gyda ni am amser hir, ar fapiau ac ar arwyddion stryd. Mae’r disgyblion wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i hanes y datblygiad yma.
“Ac wrth gwrs, tu ôl i’r enw mae deg tŷ newydd i bobl leol. Mae creu mwy o gartrefi fforddiadwy, o safon, yn rhoi cyfle i bobl fyw yn eu cymunedau eu hunain.
“Mae’r gwaith ar y safle bron wedi’i gwblhau erbyn hyn, felly ni fydd yn hir cyn y bydd pobl yn ymgartrefu yng Nghoed Adda. Gobeithio y bydd y plant yn gallu edrych yn ôl a bod yn falch eu bod nhw wedi chwarae rhan yn hanes y datblygiad cyffrous hwn.”
Dywedodd Dirprwy Bennaeth Ysgol y Garnedd, Mr Carl Evans:
"Roedd hi'n braf iawn gweld cymaint o frwdfrydedd gan ein disgyblion wrth gymryd rhan yn y gystadleuaeth i enwi’r safle, ac rydym yn falch iawn bod enw’r enillydd wedi cael ei ddewis. Cyflwynodd y plant amrywiaeth o syniadau creadigol, gan feddwl yn ofalus am enwau oedd yn adlewyrchu cymeriad yr ardal. Hoffwn ddiolch i bob un ohonyn nhw am eu hymdrech a'u hymrwymiad, a llongyfarch yr enillydd ar ei lwyddiant. Roedd hi'n fraint cael bod yn rhan o'r achlysur efo Cyngor Gwynedd a gweld y plant yn rhan o gyhoeddi’r enw swyddogol ar y safle.”
Mae datblygiad Coed Adda yn rhan o gynllun Tŷ Gwynedd, sy’n gweld y Cyngor yn adeiladu cartrefi fforddiadwy ar draws y sir. Mae’r datblygiad ym Mangor yn cynnwys chwe thŷ tair llofft a phedwar tŷ dwy lofft ar safle hen Ysgol Babanod Coed Mawr.
Mae’r gwaith adeiladu bron wedi’i gwblhau, a disgwylir i’r cartrefi fod yn barod ym mis Hydref 2026.
Fel pob cartref Tŷ Gwynedd, mae’r tai wedi’u cynllunio gyda phedair egwyddor graidd mewn golwg: fforddiadwyedd, addasrwydd, cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd ynni. Mae’r cartrefi wedi’u cynllunio ar gyfer teuluoedd lleol, gyda rhai ohonynt yn gallu cael eu haddasu yn y dyfodol os bydd angen mwy o le.
Mae tri datblygiad Tŷ Gwynedd bellach ar y gweill ym Mangor, Morfa Nefyn a Llanystumdwy, gyda rhagor o safleoedd ar y gweill a datblygiad yn Llanberis wedi’i gwblhau. Y nod yw darparu 90 o gartrefi drwy’r cynllun. Mae Tŷ Gwynedd yn rhan o Gynllun Gweithredu Tai ehangach Cyngor Gwynedd, sy’n gweithio i sicrhau bod pobl leol yn gallu cael mynediad at gartrefi fforddiadwy o safon yn eu cymunedau eu hunain.
Bydd rhai o’r tai hyn ar gael yn fuan. Maen bwysig nodi bod y trefniadau ymgeisio bellach wedi newid, gyda Chyngor Gwynedd yn gweinyddu’r cynllun yn uniongyrchol erbyn hyn.
Os oes gennych chi ddiddordeb yn y tai hyn, cofrestrwch i’n rhestr bostio i dderbyn y diweddaraf am y datblygiad yn syth i’ch mewnflwch: https://forms.cloud.microsoft/pages/responsepage.aspx?id=iRKEmf1njk64ExKyL3guzgUL_uS3BmdNklOsZJZIkDVUOEZXMEpVTjM0TjZaUEdFTlQ0Wk8yNkRGSS4u&route=shorturl