Dathlu 20 mlynedd o Ddechrau’n Deg ym Mangor, Caernarfon a Blaenau Ffestiniog

Logo Gwynedd
Uned y Wasg, Cyngor Gwynedd

Mae teuluoedd, plant, partneriaid a staff wedi dod ynghyd dros yr haf i ddathlu 20 mlynedd o Ddechrau’n Deg mewn digwyddiadau cymunedol arbennig a gynhaliwyd ym Mangor, Caernarfon a Blaenau Ffestiniog.

Cynhaliwyd y digwyddiadau yn Ysgol Maenofferen, Blaenau Ffestiniog ar 13 Awst 2026, Plas Pawb, Caernarfon ar 18 Awst 2026, a Maes Ni, Maesgeirchen, Bangor ar 19 Awst 2026.

Mae Dechrau’n Deg yn rhaglen Llywodraeth Cymru sy’n darparu cymorth cynnar i deuluoedd â phlant ifanc, gan helpu plant i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd drwy wasanaethau iechyd, datblygiad iaith, gofal plant o safon uchel a chymorth i deuluoedd.

Roedd y tri digwyddiad yn gyfle i ddathlu llwyddiant y rhaglen dros y ddau ddegawd diwethaf ac i ddod â theuluoedd, staff a sefydliadau partner ynghyd mewn awyrgylch hwyliog a chroesawgar.

Ymhlith yr ystod eang o weithgareddau, cynhaliwyd sesiynau therapiwtig gyda mulod bach, gweithgareddau Ysgol Goedwig, crefftau awyr agored, gweithgareddau creadigol i blant, sgiliau syrcas, stondinau gwybodaeth gan bartneriaid lleol, ymweliadau gan y gwasanaethau brys, cinio iach i deuluoedd a chacen ddathlu arbennig i nodi’r garreg filltir.

Wrth siarad yn nigwyddiad Blaenau Ffestiniog, dywedodd y Cynghorydd Elfed ap Elwyn:

Mae’n bleser cael bod yn rhan o ddathliadau mor wych, mae wedi bod yn destun llwyddiant ac mae’r plant wedi mwynhau. Dwi’n edrych ymlaen at yr ugain mlynedd nesaf. Diolch o galon.”

Wrth siarad yn y digwyddiad yng Nghaernarfon, dywedodd y Cynghorydd Menna Trenholme, Aelod Cabinet Plant a Chefnogi Teuluoedd:

Dwi’n falch iawn o fod yma heddiw yng nghanol dathliadau Dechrau’n Deg yn dathlu ugain mlynedd.

Mae’r cynllun wedi datblygu gymaint yn ystod y cyfnod yma ac mae’r gefnogaeth sydd wedi cael ei roi i deuluoedd yn un mor werthfawr.

Dwi’n edrych ymlaen at weld sut fydd yn datblygu dros yr ugain mlynedd nesaf.”

Wrth siarad yn nigwyddiad Bangor, dywedodd Cadeirydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Elin Walker Jones:

Mae’n fraint enfawr i fi gael bod yma heddiw, ym Maes Ni, fel un o aelodau lleol Bangor ym Maesgeirchen, yn dathlu’r ffaith bod Dechrau’n Deg yn ugain mlwydd oed eleni.

Mae’r gwasanaeth mae Dechrau’n Deg yn ei roi i deuluoedd yma ym Mangor a thu hwnt yn amhrisiadwy, a rydym yn lwcus iawn ohonyn nhw.

Mae hi’n fwrlwm yma, mae yna fwyd yma, mae yna blant yma, mae pawb yn cael hwyl i ddathlu Dechrau’n Deg yn 20 mlwydd oed. Diolch.”

Hoffai’r trefnwyr ddiolch yn arbennig i’r holl deuluoedd a fynychodd y digwyddiadau, y staff a’r gwirfoddolwyr a weithiodd mor galed i’w gwneud yn llwyddiant, a’r lleoliadau a fu’n cynnal y dathliadau. Mae’r gefnogaeth gref gan gymunedau lleol a sefydliadau partner wedi bod yn allweddol i lwyddiant Dechrau’n Deg dros yr ugain mlynedd diwethaf.

Wrth edrych ymlaen at y dyfodol, mae Dechrau’n Deg yn parhau i ymrwymo i gefnogi plant a theuluoedd ledled Gwynedd, gan sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfleoedd gorau i ffynnu a datblygu.