Darpariaeth chwaraeon newydd i Fro Dysynni

Logo Gwynedd
Uned y Wasg, Cyngor Gwynedd
Bro Dysynni, Tywyn
Torrwyd y rhuban yn swyddogol gan Evie Holt, aelod o staff Byw’n Iach Bro Dysynni, sy’n chwarae i dîm merched Wrecsam ac sydd wedi cynrychioli Cymru ar lefel dan 17 oed, a John Bennett, sy’n chwarae i dîm hoci Cymru.

Boed law neu hindda, bydd darpariaeth chwaraeon ar gael i bobl leol yn ne Meirionnydd, diolch i fuddsoddiad gan bartneriaeth o awdurdodau a mudiadau.

Cynhaliwyd seremoni agoriad swyddogol ar gyfer cae pob tywydd yng Nghanolfan Byw’n Iach Bro Dysynni, Tywyn yn ddiweddar.

Roedd y digwyddiad yn gyfle i aelodau’r gymuned, ysgolion lleol a’r timau a fu’n gyfrifol am helpu i wireddu’r prosiect ddod ynghyd i ddefnyddio’r cae ac i ddysgu mwy am y cyfleuster newydd. Bydd yn darparu cyfleusterau modern i’r gymuned gan gynnwys y clybiau hoci a phêl-droed ac ysgolion lleol.

Mae buddsoddiad o £360,000 wedi ei wneud i wireddu’ cynllun cyffrous, diolch i gydweithio rhwng: Chwaraeon Cymru, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Mantell Gwynedd, Byw’n Iach, Cyngor Gwynedd, Cyngor Tref Tywyn a’r gymuned leol.

Dywedodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet dros Economi a Chymuned yng Cyngor Gwynedd:

Rydym yn hynod falch o weld y cae pob-tywydd yma yn agor ac ar gael i bobl o bob oed a gallu i’w ddefnyddio. Bydd yr adnodd yn cynnig cyfleoedd drwy gydol y flwyddyn i gadw’n heini, i gymdeithasu ac i fwynhau.”

Dywedodd y Cynghorydd Beth Lawton, Cadeirydd Bwrdd Byw’n Iach:

Mae’r agoriad yma yn ddiwrnod arbennig i’r ganolfan, i’r dref ac i’r ardal leol. Dwi’n falch o weld y buddsoddiad yma yn iechyd a lles y gymuned ac yn gobeithio y bydd o gymorth i’n timau chwaraeon lleol i ddal ati i ffynnu.”