Cyngor Gwynedd yn sicrhau grant i fynd i'r afael â phroblem gwm cnoi

Mae Cyngor Gwynedd yn mynd i’r afael â’r broblem o gwm cnoi ar balmentydd a strydoedd y sir diolch i grant gan fudiad cenedlaethol.

Gall gwm cnoi sy’n cael ei daflu yn ddi-ofal adael staeniau amlwg ar strydoedd a phalmentydd sy’n anodd iawn i’w gwaredu. Diolch i grant o £26,752 gan y ‘Chewing Gum Task Force’ mae Cyngor Gwynedd wedi gallu prynu peiriant stêm arbenigol ychwanegol i fynd i’r afael â’r broblem.

Bydd Timau Tacluso Ardal Ni y Cyngor yn defnyddio’r peiriant mewn cymunedau ledled y sir, gan gyfrannu at wneud ein cymunedau’n lanach ac yn fwy deniadol i bawb.

Dyma’r bedwaredd flwyddyn i Gyngor Gwynedd lwyddo i ddenu cyllid o’r cynllun, a sefydlwyd gan Defra a gaiff ei weinyddu gan Keep Britain Tidy.

Dywedodd y Cynghorydd June Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Priffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Gwynedd:

Mae sbwriel gwm cnoi yn parhau i fod yn broblem sy’n cael ei hamlygu’n rheolaidd gan drigolion ledled y sir, felly rydym yn falch o allu buddsoddi mewn offer pwrpasol i fynd i’r afael â’r her hon.

Rydym yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth a’r cyllid a ddarparwyd gan y Chewing Gum Task Force. Mae’r Timau Tacluso wedi cychwyn ar raglen o waith glanhau yn barod, a’r gobaith yw y bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth amlwg i olwg ein strydoedd a’n palmentydd.

Mae effaith taflu gwm cnoi ar lawr yn rhywbeth y mae llawer wedi’i brofi drostynt eu hunain, boed hynny wrth gamu arno a’i gario ar esgidiau neu ei drosglwyddo i ddillad. Dyna pam, ochr yn ochr â’r gwaith glanhau, ein bod yn pwysleisio’r angen i waredu gwm yn gyfrifol o’r cychwyn cyntaf.

Mae Timau Tacluso Ardal Ni yn gweithio ar draws holl gymunedau Gwynedd, yn mynd i’r afael a’r tasgau bychan ond pwysig er mwyn gwella’r amgylchedd leol. Os hoffech i un o’r timau ymweld a’ch cymuned chi, siaradwch gyda’ch Cynghorydd Sir lleol.