Mae dyn o Gaernarfon wedi ei ddedfrydu mewn llys ac wedi derbyn dirwy ariannol o fwy na £300 wedi achos o dipio anghyfreithlon ‘nol yn Rhagfyr 2025.
Yn sgil hyn, mae Cyngor Gwynedd yn atgoffa'r cyhoedd y bydd unrhyw un sy'n gwaredu gwastraff yn anghyfrifol neu'n anghyfreithlon yn wynebu canlyniadau difrifol.
‘Nol dros gyfnod y Nadolig 2025, cafodd Cyngor Gwynedd gŵyn am sbwriel ym mynwent Llanbeblig, Caernarfon a chynhaliwyd ymchwiliad gan y Gwasanaeth Gorfodaeth.
O ganlyniad, rhoddwyd Hysbysiadau Cosb Benodedig, sef dirwy ariannol, i ddau berson. Rhoddwyd cosb o £150 i un o’r unigolion am ofyn i rhywun nad oedd gyda trwydded ddilys i gludo gwastraff ar eu rhan. Cafodd y llall gosb o £180 am waredu’r gwastraff mewn ffordd anghyfreithlon ac am gludo gwastraff heb fod â thrwydded i wneud hynny.
Yna, ar 26 Gorffennaf, dygwyd un o’r unigolion i’r llys am nad oedd wedi talu’r Hysbysiad Cosb Benodedig. Plediodd yn euog a dedfrydwyd ef i dalu £368, sy’n cynnwys costau llys.
Dywedodd y Cynghorydd June Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Wasanaethau Stryd:
Mae tipio anghyfreithlon, gwaredu gwastraff yn anghyfrifol a throseddau amgylcheddol eraill yn achosi niwed sylweddol i'n cymunedau ac i'r amgylchedd. Nid yw'r math hwn o ymddygiad yn dderbyniol, ac fel y gwelwyd yn achos Llanbeblig, byddwn yn defnyddio'r holl bwerau sydd ar gael i ni i gymryd camau gorfodi, gan gynnwys rhoi hysbysiadau cosb benodedig ac, os bydd angen, i erlyn y rhai sy’n gyfrifol.
Mae’r achos diweddar yn dangos yn glir y byddwn yn mynd ar drywydd y rhai sy’n methu â chydymffurfio â’r gyfraith, ac na fydd methu â thalu Hysbysiad Cosb Benodedig yn golygu bod y mater yn dod i ben.
Nid oes unrhyw esgus am daflu neu adael ysbwriel. Mae gweithredoedd o’r fath yn gwneud i’n hardaloedd edrych yn flêr, yn peri risgiau i iechyd y cyhoedd, yn llygru’r amgylchedd ac yn niweidio bywyd gwyllt.
Dwi’n atgoffa pobl fod cyfrifoldeb arnynt i wirio os ydi rhywun sy’n cael gwared â sbwriel neu glirio tŷ ar eu rhan gyda thrwydded i wneud hynny. Mae’r rhan helaethaf o gwmnïau sy’n darparu’r math yma o wasanaeth yn gwneud hynny mewn ffordd gyfrifol a chyfreithlon. Ond fel mae’r achos yma yn dangos mae pobl ddi-hid allan yna sy’n fodlon ei waredu mewn ffordd anghyfrifol, a gall hyn arwain at ganlyniadau difrifol i chi.”
Ychwanegodd Steven Edwards, Rheolwr Gwasanaeth Gorfodaeth Stryd Cyngor Gwynedd:
Rydym yn ddiolchgar iawn i aelodau o’r cyhoedd a gymerodd yr amser i adrodd y digwyddiadau hyn. Cofiwch, gall unrhyw un roi gwybod i’r Cyngor am droseddau amgylcheddol drwy’r wefan neu drwy ap apGwynedd.”
I sicrhau eich bod yn cael gwared o wastraff yn gyfrifol a chyfreithlon, mae pob math o wybodaeth ddefnyddiol ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd: www.gwynedd.llyw.cymru/ailgylchu, gan gynnwys:
• Manylion eich diwrnod casglu gwastraff ac ailgylchu a beth sydd i fynd ym mha fin. Nid oes esgus dros beidio defnyddio’r gwasanaeth rheolaidd.
• Gwybodaeth am ganolfannau ailgylchu o fewn y sir a sut mae archebu slot. Mae hyn yn ddefnyddiol os ydych wedi bod yn clirio ac efo mwy o wastraff na’r arfer. Dylid didoli eich gwastraff cyn cyrraedd y ganolfan fel gellir ailgylchu cymaint a sy’n bosib.
• Sut mae trefnu i gael gwared o eitem mawr, er enghraifft soffa neu rewgell.
Os ydych angen trefnu gwasanaeth clirio tŷ masnachol / preifat, mae dyletswydd arnoch i sicrhau eu bod wedi eu cofrestru a gyda thrwydded i wneud y gwaith. Mae rhestr o gwmnïau sydd wedi eu cofrestru i gludo gwastraff ar gael ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru: www.naturalresources.wales
