Cyngor Gwynedd yn cefnogi amrywiaeth mewn democratiaeth

Logo Gwynedd
Uned y Wasg, Cyngor Gwynedd

Mewn cyfarfod o’r Cyngor Llawn ddoe (2 Gorffennaf), mabwysiadodd aelodau Cyngor Gwynedd Ddatganiad Amrywiaeth mewn Democratiaeth, ynghyd â rhoi rhaglen weithredu ar waith er mwyn ei chyflawni.

Mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn gefnogol i hybu amrywiaeth mewn democratiaeth ers sawl blwyddyn, gan fabwysiadu’r Datganiad Amrywiaeth mewn Democratiaeth gwreiddiol ym mis Hydref 2021. Ers hynny, mae nifer o gamau cadarnhaol wedi eu cymryd i annog mwy o bobl o amrywiol gefndiroedd i sefyll mewn etholiadau.

Drwy fabwysiadu’r diweddariad i’r datganiad mae Cyngor Gwynedd yn ymrwymo i:

  • Ddarparu ymrwymiad clir a chyhoeddus i wella amrywiaeth mewn democratiaeth
  • Ddangos diwylliant agored a chroesawgar i bawb, a hyrwyddo’r safonau ymddygiad uchaf
  • Hybu gweithrediadau fel Cyngor Amrywiol cyn etholiadau lleol 2027.
  • Ddangos ymrwymiad i ddyletswydd gofal dros Gynghorwyr
  • Ystyried sut i ddarparu hyblygrwydd ym musnes y Cyngor drwy adolygu ein trefniadau ymarferol
  • Barhau i annog fod yr holl aelodau yn derbyn y lwfansau a’r cyflogau y mae ganddynt hawl eu derbyn, ac yn benodol unrhyw ad-daliadau am gostau gofal, fel bod yr holl aelodau yn derbyn cydnabyddiaeth deg am eu gwaith ac nad yw rôl yr aelodau yn gyfyngedig i’r rhai all ei fforddio.
  • Weithio tuag at sicrhau bod cynghorwyr o grwpiau a dangynrychiolir yn cael eu cynrychioli pryd bynnag fo’n bosibl mewn rolau proffil uchel a dylanwad uchel.

Dywedodd y Cynghorydd Llio Elenid Owen, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol Cyngor Gwynedd:

Gyda threfniadau am etholiadau Llywodraeth Leol Cymru ar y gweill at fis mis Mai 2027, mae’n amserol adolygu ein datganiad o fod yn hybu a hyrwyddo amrywiaeth mewn democratiaeth.

Mae’n bwysig bod cynrychiolaeth sy’n adlewyrchu’r gymdeithas rydym yn byw ynddi yng Ngwynedd yn cael eu hannog i sefyll mewn etholiadau. Dwi’n annog trigolion Gwynedd o bob cefndir i fynd amdani.”

Mae copi o’r Datganiad a’r rhaglen waith i’w gweld ar wefan Cyngor Gwynedd: Datganiad Amrywiaeth Cyngor Gwynedd