Mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi cytuno i fabwysiadu cytundeb newydd a fydd yn cryfhau’r berthynas rhwng y Cyngor a’r trydydd sector, gan osod sylfaen gadarn ar gyfer cydweithio i gefnogi cymunedau’r sir yn y blynyddoedd i ddod.
Mae’r trydydd sector, sy’n cynnwys elusennau, mudiadau gwirfoddol, mentrau cymdeithasol a grwpiau cymunedol, yn chwarae rhan hanfodol ym mywydau trigolion Gwynedd. O ddarparu cefnogaeth i unigolion a theuluoedd i greu cyfleon i wirfoddoli a chryfhau cymunedau, mae’r sector yn cyfrannu’n sylweddol at lesiant y sir.
Drwy fabwysiadu fersiwn diweddaraf o’r cytundeb cydweithio ‘Compact’, bydd y Cyngor â’r trydydd sector yn cadarnhau eu hymrwymiad i weithio gyda'i gilydd er budd pobl a chymunedau Gwynedd.
Fel rhan o’r trefniadau newydd, bydd Grŵp Cyswllt y Trydydd Sector yn cael ei ailsefydlu mewn partneriaeth â Mantell Gwynedd. Bydd y grŵp yn dod â lleisiau o bob rhan o'r sector at ei gilydd i rannu syniadau, trafod blaenoriaethau a helpu i lunio'r ffordd ymlaen.
Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Oedolion, Iechyd a Llesiant:
Dwi’n falch iawn fod Cabinet y Cyngor wedi cytuno i fabwysiadu’r gytundeb cydweithio. Mae'r trydydd sector yn bartner hynod bwysig i’r Cyngor ac yn gwneud gwaith gwirioneddol dda i fywydau pobl ar draws Gwynedd bob dydd.
“Drwy gydweithio gallwn wneud y defnydd gorau o’n hadnoddau, manteisio ar gryfderau ein gilydd a sicrhau’r budd mwyaf posibl i’n trigolion a chymunedau.
“Mae’r gytundeb yn rhoi sylfaen gadarn i ni adeiladu arni, gan sicrhau bod y berthynas rhwng y trydydd sector a’r Cyngor yn parhau i ddatblygu a ffynnu yn y blynyddoedd i ddod..”
Ychwanegodd Bethan Russell Williams, Prif Swyddog Mantell Gwynedd:
“Mae’r Compact yn dweud stori dda o gydweithio mewn partneriaeth, ac o ymddiriedaeth rhwng dwy sector o fewn un sir. Ni fyddai’r Cyngor yn medru darparu’r holl wasanaethau heb y mudiadau trydydd sector, ond mae’r sector hefyd angen y gefnogaeth a’r ymddiriedaeth i allu gwneud hynny.
“Rydym wedi cyrraedd pwynt da yng Ngwynedd, ac mae’n bwysig cofio mai lles pobl Gwynedd sydd wrth wraidd y berthynas arbennig iawn yma.”