Mae gan bobl a chymunedau Gwynedd bron i dair wythnos ar ôl i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar y posibilrwydd o gyflwyno Ardoll Ymwelwyr.
Mae modd cwblhau’r holiadur ar-lein ac mae copïau papur ar gael o llyfrgelloedd y sir ac o brif swyddfeydd y Cyngor.
Gall unrhyw-un sydd eisiau mwy o wybodaeth am beth ydi Ardoll Ymwelwyr a sut i lenwi’r holiadur fynychu un o’r sesiynau galw heibio sydd wedi eu trefnu (nid oes angen cofrestru o flaen llaw):
- Aberdyfi: Neuadd Dyfi – Dydd Mercher, 8 Gorffennaf, 10:00-12:00
- Bala: Byw’n Iach Penllyn (Canolfan Hamdden) – Dydd Mercher, 8 Gorffennaf, 14:00-16:00
- Abersoch: Neuadd Abersoch – Dydd Gwener, 10 Gorffennaf, 10:00-12:00
- Pwllheli: Neuadd Dwyfor – Dydd Gwener, 10 Gorffennaf, 14:00-16:00
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd:
A ninnau dros hanner ffordd drwy’r cyfnod ymgynghori, mae dal digon o amser i bobl ddweud eu dweud a bydd derbyn adborth yn helpu cynghorwyr i wneud penderfyniad deallus am y mater pwysig hwn.
Mae’r sector dwristiaeth yn rhan bwysig o economi Gwynedd ac yn cael effaith fawr ar ein cymunedau felly mae’n bwysig fod pawb yn cael y cyfle rannu barn.”
Mae’r ymgynghoriad ar agor hyd nes 26 Gorffennaf 2026.
I gymryd rhan:
- Ewch i wefan Cyngor Gwynedd: gwynedd.llyw.cymru/DweudEichDweud
- Holwch am gopi papur yn un o lyfrgelloedd y sir neu un o’r tair Siop Gwynedd (Caernarfon, Pwllheli, Dolgellau).
- Gellir gneud cais am holiadur drwy’r post drwy ffonio 01766 771000.
Mae gwybodaeth gefndirol a dogfennau perthnasol ar gael ar wefan y Cyngor: gwynedd.llyw.cymru/Ardoll
