Rhybudd cynnwys
Mae’r datganiad hwn yn cyfeirio at hunan laddiad a hunan-niweidio. Os ydi hyn yn cael effaith arnoch, cofiwch fod cymorth ar gael, er enghraifft:
- Y Samariaid - 116 123 - samaritans.org
- Y Gwasanaeth Iechyd - 111 - nhs.uk
- Childline - 0800 1111 - childline.org.uk (at gyfer plant a phobl ifanc o dan 19 oed)
Ar drothwy Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd (Iau, 10 Medi), mae Cyngor Gwynedd yn tynnu sylw at yr egwyddor fod atal hunanladdiad yn “fusnes pawb” ac yn gyfrifoldeb ar y cyd rhwng sefydliadau, cymunedau ac unigolion.
Golygai hyn y dylai pawb fod yn agored i siarad am y pwnc; bydd y Cyngor yn cydweithio â phartneriaid fel bo gwasanaethau ar gael i rheini sy’n agored i hunan-niweidio neu hunanladdiad; a bod cefnogaeth hefyd ar gael i deuluoedd a chymunedau sy’n byw gydag effeithiau hunanladdiad a hunan-niweidio. Mae atal hunanladdiad a hunan-niweidio ymhlith plant a phobl ifanc yn elfen bwysig o'r gwaith.
Bydd y mater pwysig hwn yn cael ei drafod gan Gabinet y Cyngor wythnos nesaf, ble bydd argymhelliad gerbron aelodau i fabwysiadu Cynllun Gweithredu ar gyfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio 2026-2028.
Drwy fabwysiadu’r Cynllun Gweithredu, bydd gwahanol wasanaethau ac adrannau’r Cyngor - gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol, yr adran addysg, y bartneriaeth diogelwch cymunedol - yn cydweithio. Rhai o’r pethau fydd yn deillio o fabwysiadu’r Cynllun fydd:
- Codi ymwybyddiaeth a darparu hyfforddiant i staff ac aelodau etholedig
- Codi ymwybyddiaeth ymhlith trigolion a grwpiau cymunedol o'r cymorth sydd ar gael
- Adeiladu ar y gwaith sydd eisoes yn digwydd drwy ysgolion i roi cymorth a chefnogaeth i blant a phobl ifanc
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:
Fel Cyngor, rydan ni’n ymrwymo i fod yn rhan o’r ymdrech genedlaethol a byd-eang i atal hunanladdiad a hunan-niweidio.
Yn 2024, bu farw mwy na 15 o bob 100,000 o'r boblogaeth yng Nghymru oherwydd hunanladdiad, ac roedd y ffigwr yma yn uwch nag yn 2023. Mae hyn yn ystadegyn difrifol ac rydym yn benderfynol o gydweithio efo’r gymuned a sefydliadau eraill i atal y marwolaethau hyn.
Mae’n fater cymhleth ac mae nifer o ffactorau yn gysylltiedig efo hunanladdiad, gan gynnwys tlodi, problemau iechyd meddwl a chorfforol, camddefnyddio alcohol a sylweddau ac ati. Dyma pam fod angen i’r lleol weithio gyda’r cenedlaethol er mwyn i’r afael a’r problemau hyn.”
Mae’r Cynghorydd Elin Walker Jones, Cadeirydd Cyngor Gwynedd, yn un sydd wedi gweithio’n galed i gael y mater pwysig hwn ar yr agenda. Meddai:
Mae hunan-niweidio a hunanladdiad wedi gallu bod yn bwnc tabŵ yn ein cymdeithas dros y cenedlaethau. Mae’n hynod bwysig ein bod yn fwy parod i drafod materion fel hyn yn agored ac atgoffa pobl fod cefnogaeth ar gael, dydi pobl ddim ar eu pennau eu hunain.
Yn anffodus, mae hyn yn fater sy’n cyffwrdd nifer o deuluoedd a chymunedau. Dwi’n falch iawn bydd Cabinet y Cyngor yn trafod y Cynllun Gweithredu ychydig ddyddiau ar ôl Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd.”