Cymorth i deuluoedd Gwynedd gyda chostau cinio ysgol

Logo Gwynedd
Uned y Wasg, Cyngor Gwynedd

Wrth i gostau byw barhau i godi pryder i deuluoedd, mae Cyngor Gwynedd yn canolbwyntio ar sicrhau bod pob teulu sy’n gymwys yn cael gwybod am y hawl i ginio ysgol am ddim a sut i wneud cais. Mae’r mesur hwn yn allweddol i leddfu’r pwysau ariannol ar deuluoedd wrth i blant ddychwelyd i’r ysgol.

Mae pob plentyn sy’n mynychu ysgol gynradd yng Ngwynedd yn gymwys i ginio ysgol am ddim. Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi estyniad sy’n golygu y bydd dysgwyr ym mlynyddoedd 7 a 8 sy’n dod o aelwydydd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol bellach yn gymwys hefyd, o fis Medi 2026. Bydd awdurdodau lleol yn darparu prydau i bob dysgwr cymwys ym mlynyddoedd 7 a 8 cyn gynted ag y bo’n ymarferol, a heb fod yn hwyrach na diwrnod cyntaf tymor Ionawr 2027.

Sut i wirio a chael y cymorth

  • Mae Gwasanaeth Budd-daliadau Cyngor Gwynedd wedi adnabod nifer o deuluoedd a allai fod yn gymwys ac mae gwaith gwirio cymhwysedd ar y gweill.
  • Os cadarnheir hawl, bydd y dysgwyr yn cael eu hychwanegu’n syth at y rhestrau a anfonir at ysgolion, a bydd rhieni neu ofalwyr yn derbyn cadarnhad ysgrifenedig.
  • Nid oes angen llenwi ffurflen gais os yw teulu’n derbyn Budd-dal Tai neu ostyngiad Treth Cyngor gan Gyngor Gwynedd, gan fod yr hawl yn cael ei asesu’n awtomatig.
  • Os nad yw teulu’n derbyn cymorth ariannol ar hyn o bryd ond yn credu eu bod yn gymwys, gallant gwblhau ffurflen ar wefan y Cyngor: Cinio ysgol am ddim - Cyngor Gwynedd (yn agor mewn tab newydd).

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:

Mae sicrhau bod plant yn cael pryd iach a chyson yn yr ysgol yn gam syml ond effeithiol i gefnogi teuluoedd.

Os gall teulu gael cinio ysgol am ddim, mae hynny’n tynnu un pryder mawr oddi ar eu rhestr - nid dim ond arian ar gyfer bwyd, ond tawelwch meddwl i rieni a gofalwyr.

Rydym yn annog pob teulu i wirio eu hawl a manteisio ar y cymorth sydd ar gael.”

Dywedodd Dewi Jones, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd:

Mae estyniad y cynllun i gynnwys disgyblion ym Mlynyddoedd 7 a 8 yn gam pwysig tuag at sicrhau tegwch i blant ledled y sir.

Bydd hyn yn helpu i leihau rhwystrau i ddysgu a sicrhau bod plant yn dechrau’r diwrnod gyda bwyd digonol.

Byddwn yn annog unrhyw un sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi â chostau byw i edrych ar y cymorth a’r wybodaeth sydd ar gael i deuluoedd ar ein gwefan: www.gwynedd.llyw.cymru/CostauByw (yn agor mewn tab newydd). Fel arall, mae croeso i chi alw heibio un o Hybiau Cymunedol Gwynedd neu lyfrgelloedd y sir am wybodaeth a chymorth.”