Cyhoeddi adroddiad ar drefniadau diogelu disgyblion ysgol

Logo Gwynedd
Uned y Wasg, Cyngor Gwynedd

Bydd adroddiad ymchwiliad i drefniadau diogelu yn ysgolion Gwynedd yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Craffu Addysg ac Economi'r awdurdod ar 14 Gorffennaf 2026.

Cynhaliwyd yr ymchwiliad dros gyfnod o flwyddyn gan grŵp o aelodau o’r Pwyllgor Craffu, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o sut mae trefniadau cyfredol diogelu mewn ysgolion yn gweithio’n ymarferol yng Ngwynedd ac i adnabod cyfleoedd i’w cryfhau.

Rhan allweddol o’r ymchwiliad oedd arfarniad annibynnol er mwyn clywed llais disgyblion.

Y prif ganfyddiadau o siarad gyda phlant a phobl ifanc oedd bod:

  • Disgyblion yn gwerthfawrogi staff sy’n agos-atoch ac sy’n ymateb i emosiynau
  • Cysylltiad cryf rhwng lles, tegwch a pherthyn â theimlo'n ddiogel
  • Profiad o ddiogelu drwy berthnasoedd a diwylliant yr ysgol
  • Oedolion dibynadwy a diogelwch emosiynol yn themâu canolog.

Yn ychwanegol, cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd ac ymweliadau i 11 ysgol a roddodd gyfle i staff a llywodraethwyr ysgolion ac arbenigwyr yn y maes rannu eu profiadau a barn.

Dywedodd y Cynghorydd Cai Larsen, cadeirydd yr ymchwiliad:

Roedd llawer o’r hyn a welsom yn galonogol. Gwelsom ysgolion lle mae lles a diogelwch disgyblion wrth galon y gwaith dyddiol, gyda staff ymroddedig a llywodraethwyr cydwybodol yn gweithio’n ddiflino i greu amgylcheddau diogel a chefnogol. Mae hynny’n haeddu cael ei gydnabod a’i ganmol.

Ar yr un pryd, dangosodd yr ymchwiliad fod cyfleoedd i gryfhau trefniadau ymhellach.

Mae’r argymhellion yn yr adroddiad yn canolbwyntio ar feysydd megis hyfforddiant, rhannu gwybodaeth, cefnogi llywodraethwyr, gwrando ar lais disgyblion a sicrhau bod pryderon yn cael eu cofnodi a’u hystyried mewn modd sy’n galluogi adnabod patrymau risg cyn i niwed ddigwydd.

Rydym yn gobeithio y bydd yr argymhellion yn cyfrannu at adeiladu ar y diwylliant a welwyd yn yr ysgolion lle mae pob pryder yn cael ei gymryd o ddifri, gan ddysgu’n barhaus a bod pob plentyn yn gwybod ble i droi am gymorth er mwyn sicrhau’r safonau uchaf posibl o ddiogelu.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Dewi Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Addysg:

Mae llawer o waith wedi ei wneud gan Gyngor Gwynedd i gryfhau a thynhau trefniadau diogelu yn ysgolion y sir, ers cyhoeddi adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder yn 2024.

Roeddwn yn falch o ddysgu fod yr ymchwiliad wedi dod i’r casgliad bod llawer o arfer da eisoes yn bodoli yn ysgolion Gwynedd, gyda staff a llywodraethwyr yn dangos ymrwymiad cryf i ddiogelwch a lles plant.

Rydw i hefyd yn ddiolchgar am yr argymhellion. O’u gweithredu bydd cyfleoedd i gryfhau trefniadau ymhellach drwy wella cysondeb, rhannu gwybodaeth, datblygu hyfforddiant, cefnogi llywodraethwyr a galluogi adnabod patrymau risg yn gynnar.

Rydw i’n hynod ddiolchgar i bawb a gyfrannodd at y gwaith hwn ac edrychaf ymlaen at y drafodaeth yn y Pwyllgor.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:

Rydw i’n croesawu’r adroddiad hwn ac yn ddiolchgar i fy nghyd-gynghorwyr am eu gwaith trylwyr. Rwyf yn hyderus bydd gweithredu’r argymhellion yn ein helpu eto fyth ar ein siwrnai o gryfhau trefniadau diogelu yn ein hysgolion. Dim ond trwy weithio gyda’n gilydd y gallwn gyflawni hyn.

Mae lleisiau plant a phobl ifanc mor bwysig wrth i ni ymdrin â materion pwysig fel hyn felly dwi’n ddiolchgar i’r disgyblion ysgol a gymerodd ran yn y sesiynau.”

Yn ei gyfarfod ar 14 Gorffennaf, bydd aelodau’r Pwyllgor Craffu yn ystyried os ydynt yn derbyn adroddiad yr ymchwiliad. Os bydd yr adroddiad yn cael ei dderbyn, bydd adrannau a gwasanaethau perthnasol y Cyngor yn gweithredu ar yr argymhellion.

Mae’r adroddiad llawn i’w weld yma: Rhaglen ar gyfer Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ar Dydd Mawrth, 14eg Gorffennaf, 2026, 10.30 y.b. (eitem 5)