Mae Cyngor Gwynedd yn gwneud gwaith ymchwil fel rhan o brosiect fydd yn gwella mynediad at natur a rhoi budd i bobl a bywyd gwyllt.
Mae’r Cyngor yn gofyn i bobl lenwi holiadur byr er mwyn rhoi gwell dealltwriaeth o brofiadau pobl o natur, mannau gwyrdd, bywyd gwyllt a'u hardaloedd lleol.
Mae cyfle i bawb sydd wedi cwblhau’r arolwg i fod yn rhan o gystadleuaeth i ennill coeden ffrwyth dreftadaeth yn rhad ac am ddim.
Bwriad y prosiect ydi edrych ar y posibilrwydd o ddatblygu seilwaith glas a gwyrdd ar draws naw o drefi Gwynedd.
Golygai hyn fod posibilrwydd o ddatblygu mannau gwyrdd gyda lle i natur ffynnu o fewn ein hardaloedd trefol fydd yn creu datrysiadau draenio naturiol.

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Adran Amgylchedd:
“Rydym eisiau deall sut mae pobl Gwynedd yn defnyddio, yn mwynhau ac yn cael budd o ardaloedd gwyrdd lleol, fel y gallwn weithio gyda cymunedau i wella mynediad at natur.
“Law yn llaw â hyn, mae’r Cyngor wedi ymrwymo i arafu a glanhau’r dŵr sy’n rhedeg trwy ein strydoedd a helpu cymunedau i ymateb i hinsawdd sy’n newid.
“Dylai'r arolwg gymryd 5 i10 munud. Rydym eisiau barn fel trigolion, busnesau, ymwelwyr a rhanddeiliaid a dyna pan rydym yn annog pawb i fanteisio ar y cyfle i gymryd rhan.”
Mae’r prosiect seilwaith glas a gwyrdd yn canolbwyntio ar naw ardal drefol yng Ngwynedd: Aberdyfi, Bangor, Blaenau Ffestiniog, Caernarfon, Dolgellau, Harlech, Porthmadog, Trawsfynydd a Thywyn.
I gymryd rhan yn yr arolwg, gall pobl fynd i wefan y prosiect: gwyneddbgi. Mae amodau a thelerau’r gystadleuaeth i ennill y goeden ffrwyth treftadaeth ar y wefan hefyd.
Am fwy o wybodaeth am y prosiect, gall y cyhoedd gysylltu â’r tîm ar: seilwaithgwyrdd@gwynedd.llyw.cymru

