Croesawu gwelliannau sylweddol i’r Maes yng Nghricieth

Logo Gwynedd
Uned y Wasg, Cyngor Gwynedd
Agoriad Swyddogol Cricieth

Mae tref hynafol yn Eifionydd wedi gweld buddsoddiad gwerth bron i £300,000 er mwyn rhoi hwb i’r economi leol ac i’w wneud yn le brafiach i bobl i siopa ac hamddena.

Yng Nghricieth, mae bron i £140,000 wedi ei wario ar wneud gwelliannau sylweddol i isadeiledd y strydoedd yn ardal y Maes. Daeth bron i £100,000 drwy gynllun Adfywio Canol Trefi Cyngor Gwynedd ariannwyd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a’r gweddill drwy gronfeydd y Cyngor.

Ochr yn ochr â hyn, dyrannwyd oddeutu £137,000 gan y Cyngor i fusnes lleol i adnewyddu adeiladau oedd yn ddolur llygad amlwg yng nghanol y dref a’u sefydlu’n fenter llwyddiannus.

Golygai’r gwelliannau i'r isadeiledd fod diogelwch, hygyrchedd a buddiannau cymunedol wedi gwella drwy greu lle agored a dymunol yng nghanol y dref. Bellach, mae mwy o lefydd pwrpasol lle gall trigolion ac ymwelwyr eistedd, cymdeithasu a mwynhau’r awyrgylch.

Prif nod yr elfen yma o’r gwaith oedd datrys problem y palmant oedd wedi codi oherwydd gwreiddiau coed, a oedd gyda’r potensial o fod yn beryglus i gerddwyr, yn enwedig rhai sydd â nam ar y golwg, rhai sydd â phroblemau symudedd neu rai sy’n gwthio coets babi.

Roedd y gwaith hefyd yn cynnwys:

  • Gosodwyd meinciau newydd yn lliw glas nodweddiadol Cricieth.
  • Codwyd waliau cerrig isel gyda chopa o lechen, gosodwyd meinciau pren a chrëwyd dau bwll coed newydd, gan ychwanegu estheteg a swyddogaeth i’r safle.
  • Gosodwyd goleuadau newydd ac ail-baentiwyd y bolardiau presennol.

Yn yr un cyfnod, mae busnes lleol hefyd wedi cael budd sylweddol drwy gynlluniau gan y Cyngor.

Dyrannwyd grant gwella eiddo i drawsnewid hen ganolfan grefft a gweithdy ynghlwm. Mae rhain yn adeiladau allweddol ar Faes Cricieth oedd yn wag ers amser a drwy gymorth datblygu busnes maent wedi eu trawsnewid i fod yn hwb bwyd a diwylliant.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:

Mae bwrlwm canol trefi yn chwarae rhan hanfodol yn economi Gwynedd, ac mae’r gwelliannau hyn yn dyst i ymrwymiad parhaus y Cyngor i’w hadfywio.

Dwi’n hynod falch fod gwahanol adrannau’r Cyngor wedi gallu cydweithio er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn i’r rhan yma o Gricieth.

Byddwn yn annog unrhyw un i alw heibio i fwynhau’r ardal ar ei newydd wedd.”

Dywedodd y Cynghorydd June Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sy’n gyfrifol am yr Adran Briffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Gwynedd:

Rydym yn falch o weld sut mae’r gwaith ailddatblygu ym Maes Cricieth wedi trawsnewid yr ardal i fod yn fwy diogel, croesawgar a hygyrch i bawb.

Mae creu mannau eistedd newydd o amgylch y coed wedi helpu i greu lle y gall y gymuned a’r ymwelwyr fwynhau’r dref yn fwy cyfforddus.”

Dywedodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sy’n gyfrifol am yr Adran Economi a Chymuned:

Mae’n wych gweld busnesau lleol fel y rhai yng Nghricieth yn manteisio ar y cyfleoedd sy’n deillio o’r grantiau hyn. Maent wedi’u cynllunio’n benodol i helpu busnesau o bob maint i dyfu i’r dyfodol.

Dwi’n annog busnesau eraill ym mhob rhan o’r sir sy’n chwilio am gyfleoedd i ddatblygu a chryfhau i ymweld â wefan y Cyngor i weld pa gymorth sydd ar gael neu i gysylltu efo’r Adran am sgwrs. Gall y gefnogaeth yma wneud gwahaniaeth gwirioneddol ar lawr gwlad.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Siân Williams, yr aelod lleol dros Gricieth:

Dwi’n hynod falch fod busnesau lleol a’r gymuned yn ehangach wedi gallu manteisio ar y grantiau hyn a’n bod bellach yn gweld ffrwyth llafur ymdrechion pawb. Gyda tymor yr haf rownd y gornel a gobeithio bydd y tywydd yn cynhesu fel gall pobl leol ac ymwelwyr fwynhau’r adnoddau newydd.

Diolch i Gyngor Tref Cricieth, y gymuned fusnes leol a’r contractwyr am gydweithio llwyddiannus, i sicrhau fod pob rhan o’r gwaith yn cael ei gyflawni i’r safon uchaf.”

Ychwanegodd Lloyd Edwards perchennog busnes Y Maes:

Mae derbyn y grant yma wedi golygu bod adeilad blêr yng nghanol Cricieth wedi cael ei droi i fod yn hwb modern fydd o fudd i'r gymuned a'r busnesau lleol ac yn ehangach.”

Nodiadau

  • Cyflawnwyd gwelliannau Maes Cricieth gan Gyngor Gwynedd gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth y DU o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
  • Cwblhawyd cam un o’r gwaith i ailddatblygu’r strydoedd a’r palmentydd yn Ebrill 2025, a arweiniodd at fuddsoddiad pellach o arian o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin gan Cyngor Gwynedd er mwyn cwblhau rhan dau o'r prosiect yn Hydref 2025.
  • Arweiniwyd a dyluniwyd y gwaith isadeiledd gan Ymgynghoriaeth Gwynedd (YGC) gyda’r prif gontractwr Thom James Construction Services ac I.Griffiths Groundworks fel is-gontractwr.
  • Mae’r cronfeydd busnes Grant Gwella Eiddo Canol Trefi a Grant Datblygu Busnes wedi dod i ben. Roedd y cronfeydd yn cael eu darparu gan Cyngor Gwynedd gan ddefnyddio arian Llywodraeth y DU o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
  • Mae gwybodaeth am y grantiau a’r cymorth arall ar gael gan Cyngor Gwynedd ar wefan y Cyngor: www.gwynedd.llyw.cymru/Busnes.
  • Gall busnesau lleol danysgrifio ar y wefan i’r Bwletin Busnes Gwynedd am ddiweddariadau rheolaidd.