Canlyniadau TGAU 2026 – Cyngor Gwynedd yn llongyfarch disgyblion y sir

Logo Gwynedd
Uned y Wasg, Cyngor Gwynedd

Mae Cyngor Gwynedd yn estyn llongyfarchiadau i ddisgyblion ledled y sir wrth iddynt dderbyn canlyniadau eu harholiadau TGAU.

Dywedodd y Cynghorydd Dewi Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Addysg:

Rydym yn falch iawn o lwyddiant ein disgyblion yma yng Ngwynedd, ac mae canlyniadau eleni yn hynod galonogol. Mae pob disgybl yn haeddu clod am eu hymdrechion a’u gwaith caled, ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i’w cefnogi i ffynnu ymhellach.

“Hoffwn hefyd ddiolch i’r athrawon a’r staff ysgolion am eu gwaith caled a’u hymroddiad drwy gydol y flwyddyn.”

Ychwanegodd Gwern ap Rhisiart, Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd:

“Mae’r canlyniadau TGAU eleni yn adlewyrchu ymroddiad, dyfalbarhad a thalent ein pobl ifanc. Llongyfarchiadau gwresog iddynt i gyd. Mae’r llwyddiant hwn yn dyst i’r gwerthoedd craidd sy’n sail i’n cyfundrefn addysg yma yng Ngwynedd – cynhwysiant, llesiant, cyfle cyfartal, a chefnogi pob disgybl i gyrraedd eu potensial fel unigolion.”