Dymuna Cyngor Gwynedd longyfarch myfyrwyr y sir wrth i ganlyniadau Lefel A gael eu cyhoeddi heddiw.
Dywedodd y Cynghorydd Dewi Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Addysg:
Mae'n bleser mawr gen i longyfarch disgyblion y sir ar gyrraedd carreg filltir mor bwysig heddiw. Mae eu llwyddiant yn adlewyrchiad clir o'u hymroddiad a’u dyfalbarhad.
"Hoffwn hefyd ddiolch o galon i’r athrawon a’r staff ysgolion sydd wedi chwarae rhan allweddol wrth eu paratoi ar gyfer yr arholiadau a’r cymwysterau.
"Pob hwyl i bawb wrth iddynt symud ymlaen at gyfnod newydd a chyfleoedd cyffrous i’r dyfodol.”
Ychwanegodd Gwern ap Rhisiart, Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd:
“Mae’n bleser gen i eto eleni ddatgan fy malchder gyda chanlyniadau ysgolion Gwynedd gyda Lefel A, Uwch Gyfrannol a chymwysterau galwedigaethol cyfatebol. Llongyfarchiadau mawr i’r myfyrwyr a’r athrawon ar eu llwyddiant.
“Diolch arbennig i’r ysgolion a’r athrawon am eu proffesiynoldeb a’u hymroddiad parhaus, i’r myfyrwyr am eu hymdrechion sylweddol ac i’w teuluoedd am eu cefnogaeth barhaus. Mae cyfraniad pob un yn allweddol i’r llwyddiant rydym yn ei nodi heddiw.”