Cabinet Cyngor Gwynedd yn cefnogi prosiectau gwerth £6 miliwn i Wynedd

Logo Gwynedd
Uned y Wasg, Cyngor Gwynedd

Mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi cytuno i ymrwymo dros £6miliwn dros y flwyddyn nesaf tuag at becyn o brosiectau fydd yn cefnogi’r economi lleol.

Trwy gyllid y Cronfa Twf Lleol gan Llywodraeth Cymru, bydd rhaglen o weithgareddau yn cael ei gwireddu, gan sicrhau fod cymunedau ym mhob rhan o Wynedd yn gweld budd o’r cynlluniau.

Mae’r prosiectau wedi eu dethol ar sail themâu Strategaeth Economaidd Gwynedd, sef; mentergarwch, pobl a lle, ac yn cynnwys: pecyn o gymorth a chefnogaeth i fentrau lleol, help i drigolion gael swydd neu ennill gwell cyflog; gwaith datblygu i sicrhau buddsoddiadau mawrion yn ninas Bangor a Trawsfynydd; cymorth i helpu graddedigion lleol ddod Nôl i Wynedd; pecyn o weithgaredd i wella argaeledd unedau gwaith yn y sir a buddsoddiad yn asedau diwylliant, hamdden a threftadaeth ym mhob cwr o Wynedd.

Yn dilyn penderfyniad bydd manylion terfynol y cynlluniau yn cael eu cadarnhau er mwyn sicrhau eu bod ar waith cyn gynted ag y bo modd.

Bwriad y Gronfa Twf Lleol yw cefnogi twf cynhyrchiant a mynd i'r afael â’r problemau sy'n arwain at anghydraddoldebau economaidd ledled Cymru.

Mae’r pecyn o weithgareddau wedi derbyn mewnbwn gan bartneriaid y Cyngor gan gynnwys cynrychiolwyr o’r sectorau cyhoeddus, busnes a’r trydedd sector.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:

Mae nawdd trwy’r gronfa hon yn ein galluogi i wireddu nifer o brosiectau fydd yn cyfrannu at gryfhau’r economi yng Ngwynedd er budd ein cymunedau a’n trigolion. Mae’n bwysig i ni fel Cabinet bod pob rhan o Wynedd yn elwa.

Mae’n bwysig nodi hefyd fod pob cynllun a gefnogir drwy law’r gronfa angen dangos eu bwriad i gyfrannu’n gadarnhaol at ddyfodol y Gymraeg, sy’n rhywbeth i’w groesawu.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Economi a Chymuned.

“Dwi’n hynod falch bod Cabinet y Cyngor wedi cefnogi’r prosiectau yma, gan sicrhau bydd cymunedau ar draws Gwynedd yn elwa a gweld budd o’r cynlluniau.

“Mae’r prosiectau yn cyfrannu’n uniongyrchol at flaenoriaethau Strategaeth Economaidd y Cyngor, ein Cynlluniau Adfywio Ardal a’n gweledigaeth o weld Gwynedd Lewyrchus, fel nodir yng Nghynllun y Cyngor.

“Mae’n bwysig cofio hefyd mai dim ond un o nifer o raglenni ariannu ydi’r gronfa, ac nid hon yw’r unig ffynhonnell o fuddsoddiad yn y sir. Mae buddsoddiad sylweddol eisoes ar y gweill neu ar waith drwy law Cais Twf Gogledd Cymru, y Gronfa Adfywio Lleol, y rhaglen Trawsnewid Trefi a’r rhaglen Balchder Bro gan ddod a manteision i gymunedau ledled Gwynedd.”