Gwella cyfleusterau toiledau ar Bromenâd y Gogledd, Abermaw

Logo Gwynedd
Uned y Wasg, Cyngor Gwynedd

Mae'r Cyngor wedi uwchraddio toiledau cyhoeddus yn un o gyrchfannau glan môr mwyaf poblogaidd y sir diolch i nawdd Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Dros y misoedd diwethaf mae cyfleuster toiledau cyhoeddus newydd sbon wedi'i ddatblygu ar Bromenâd y Gogledd, Abermaw, i ddarparu cyfleusterau modern o safon uchel sy'n diwallu anghenion pawb, gan gynnwys pobl anabl, a theuluoedd sydd angen cyfleusterau newid babanod. Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu sicrhau bod trigolion lleol ac ymwelwyr yn gallu parhau i gael mynediad at gyfleusterau glân, modern a dibynadwy mewn un o leoliadau mwyaf poblogaidd y sir.

Mae Abermaw, yn enwog am ei draeth tywodlyd eang, ei harbwr prydferth a'r golygfeydd trawiadol dros aber Afon Mawddach, ond mae'r lleoliad hefyd yn cynnig amodau ffafriol ar gyfer cynhyrchu ynni solar.

Roedd y cynlluniau moderneiddio yn cynnwys gosod system ynni solar oddi ar y grid sy'n cynnwys pum panel solar wedi'u gosod ar y to, ynghyd â batri a gwrthdröydd. Mae'r system yn darparu cyflenwad trydan cynaliadwy sy'n ddigonol i ddiwallu anghenion trydanol yr adeilad.

Bydd yr ynni adnewyddadwy hwn yn darparu digon o drydan i redeg goleuadau LED ac unedau awyru'r adeilad, gan leihau'r galw am ynni o ffynonellau traddodiadol a helpu i wneud y cyfleusterau'n fwy hunangynhaliol.

Mae'r defnydd o dechnoleg solar a storio ynni hefyd yn lleihau ôl troed carbon y safle ac yn cyfrannu at ymrwymiad Cyngor Gwynedd i ddatgarboneiddio ei asedau cyhoeddus, hyrwyddo defnydd o ynni adnewyddadwy, a chynyddu cynaliadwyedd ei seilwaith cyhoeddus.

Dywedodd y Cynghorydd June Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Briffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Gwynedd (YGC):

Rydym yn croesawu'r grant hwn yn fawr. Gwyddom pa mor bwysig yw hi i gyfleusterau cyhoeddus fod yn ddibynadwy, yn hygyrch ac yn groesawgar i bawb. Bydd y buddsoddiad hwn yn ein galluogi i sicrhau bod y toiledau hyn yn parhau'n gyfleusterau modern o safon uchel, sy'n addas ar gyfer anghenion trigolion lleol ac ymwelwyr rŵan ac i'r dyfodol.

“Mae'n galonogol hefyd gweld technoleg ynni adnewyddadwy yn cael ei hymgorffori yn y cynllun, gan helpu i leihau costau gweithredu ac effaith amgylcheddol y cyfleusterau.”