Buddsoddiad sylweddol yn trawsnewid cyfleusterau Byw’n Iach Dwyfor

Logo Gwynedd
Uned y Wasg, Cyngor Gwynedd

Gall pobl Llŷn ac Eifionydd fwynhau adnoddau ffitrwydd ac hamdden modern ac addas i’r galw, diolch i fuddsoddiad gan Gyngor Gwynedd.

Uchafbwynt y gwelliannau yw ystafell ffitrwydd a phwysau Technogym newydd sbon sydd bellach wedi agor ei drysau fydd yn diwallu’r galw cynyddol gan gwsmeriaid lleol.

Mae'r datblygiad cyffrous hwn yn darparu ystod gynhwysfawr o offer cardio a phwysau o'r radd flaenaf gan Technogym, ynghyd â safle ymarfer Hyrox newydd sbon, gan gynnig cyfarpar sy'n addas i unigolion o bob lefel gallu ac amcanion iechyd.

Fel rhan o'r gwaith ail-ddatblygu, mae'r man gwylio’r pwll nofio wedi'i ail-leoli i ochr y dŵr, gyda mynediad pwrpasol wrth ymyl y dderbynfa. Mae gwersi nofio bellach wedi ailddechrau yn llawn yn dilyn y gwaith uwchraddio a gall teuluoedd wylio gwersi nofio’u plant mewn ardal gyfforddus, diogel a chroesawgar sydd wedi ei gynllunio i’r pwrpas.

Yn ogystal, mae system Biocircuit arloesol Technogym wedi'i gosod yn hen ystafell feics y ganolfan. Mae'r dechnoleg flaengar hon yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i lunio rhaglenni ymarfer corff personol, gan alluogi defnyddwyr i gyflawni eu nodau iechyd a ffitrwydd mewn ffordd syml, effeithiol a phwrpasol.

Mae’r buddsoddiad wedi ei sicrhau drwy gefnogaeth Chwaraeon Cymru, y Gronfa Ffyniant Gyffredin ac adrannau Cyngor Gwynedd a Byw’n Iach.

Dywedodd y Cyng. R. Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd:

Mae’n wych gweld y ganolfan wedi’i thrawsnewid gyda gwedd newydd ac offer campfa modern o’r safon uchaf.

Ynghyd â'r ardal wylio nofio newydd a mwy cyfforddus, mae'r gwelliannau hyn yn sicrhau bod y ganolfan yn cynnig profiad gwell fyth i bawb sy'n ei defnyddio.

Mae buddsoddi mewn cyfleusterau fel hyn yn fuddsoddiad yn iechyd, llesiant a dyfodol ein cymunedau."

Dywedodd y Cyng. Beth Lawton, cadeirydd bwrdd Byw’n Iach:

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i'r ganolfan ac rydym yn falch iawn o weld y gwelliannau hyn yn cael eu cwblhau.

Ein nod fel sefydliad yw darparu cyfleusterau modern, hygyrch a chroesawgar sy'n annog pobl i fod yn fwy egnïol a chefnogi eu hiechyd a'u llesiant.

Mae'r cyfarpar campfa newydd a'r gwelliannau i'r ardal wylio nofio yn rhan o'n hymrwymiad parhaus i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn cael y profiad gorau posibl.

Hoffwn ddiolch i bawb a fu'n rhan o gynllunio a chyflawni'r prosiect hwn, ac edrychwn ymlaen at weld y gymuned yn mwynhau'r cyfleusterau am flynyddoedd i ddod."