Arddangosfa Coed Coexist yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw

Logo Gwynedd
Uned y Wasg, Cyngor Gwynedd

Hanes ymweliad y Cadeirydd ag arddangosfa Coed Coexist yn ddiweddar.

A wyddoch chi hanes yr hen Blas Glyn-y-Weddw yn Llanbedrog? Nid oriel gelf oedd y Plas yn wreiddiol, ond cartref a adeiladwyd ar gyfer dynes o’r enw Elizabeth Jones Parry, gweddw Syr Love Parry Jones Parry o Fadryn, er na fu hi’n byw yno erioed. Adeiladwyd y plasty ym 1857, ond ni ddaeth yn oriel gelf nes iddo gael ei brynu gan y dyn busnes, Solomon Andrews, ym 1896.

Mae hanes amrywiol a diddorol i’r adeilad, gan gynnwys cyfnod fel hostel i ferched Byddin y Tir yn ystod yr Ail Ryfel Byd a bu hyd yn oed fflatiau ar un adeg! Yn y 1980au, cafodd ei droi’n ôl yn oriel gelf eto gan gwpwl lleol, Gwyneth a Dafydd ap Tomos. Sefydlwyd ymddiriedolaeth elusennol i ofalu am ddyfodol y Plas a’i fuddiannau ym 1996, ac yn ddiweddarach prynwyd y tiroedd cyfagos hefyd.

Heddiw, mae llawer o waith cynaliadwyedd yn digwydd ar y safle, gan gynnwys prosiectau coedwigaeth sy’n canolbwyntio ar dyfu a chynnal coed cynhenid, fel yr Aethnen, sy’n brin ac yn gynhenid i Eryri. Mae gwaith rheoli safle’r hen goedwig, sef y Winllan, hefyd yn digwydd yno.

Ym mis Ionawr 2024, cwympodd ffawydden fawr, 200 mlwydd oed, yn ystod storm enbyd yng nghoetir y Winllan ar safle Plas Glyn y Weddw. Roedd y goeden hon wedi ei siapio dros ganrifoedd gan hinsawdd arfordirol Pen Llŷn.

Gwelodd John Egan, gwneuthurwr coed, a Junko Mori, artist metel, botensial ym mhren y goeden a ddisgynnodd i greu stori newydd a fyddai’n anrhydeddu bywyd yr hen goeden. Gyda chydweithrediad Plas Glyn y Weddw, sefydlwyd prosiect Coed Coexist, sef cywaith greadigol sy’n tynnu sylw at ecosystemau coetir, a meithrin cysylltiadau rhwng cymuned, creadigrwydd a gofal am yr amgylchedd.

Cymerodd nifer helaeth o artistiaid ran yn y prosiect, gan ddefnyddio pren y goeden wreiddiol i greu gweithiau celf mewn amrywiaeth o gyfryngau, gan gynnwys cerdd, ffilm, siarcol ac estyll, ac hyd yn oed gwehyddu! Mae Coed Coexist yn arddangosfa wreiddiol ac amrywiol, ac roedd yn brofiad arbennig ac unigryw cael bod yn bresennol yno.

Roedd dros 80 o artistiaid yn rhan o’r prosiect, gan gynnwys pedwar artist ac un cerddor a gomisiynwyd yn benodol i greu gwaith yn ymateb i’r goeden: Alison Neighbour, Gabriella Rhodes a Benjamin Green, Hedydd Ioan, Jo Alexander, a’r cerddor Simmy Singh. Cynhaliwyd cyfnewidfa rhwng artistiaid o Gymru a Siapan hefyd, ac mae peth o waith celf rhyfeddol cymuned yr Ainu o Ogledd Siapan yn yr arddangosfa, yn dangos eu gwaith gwehyddu anhygoel o ddeunydd y pren. Mae’r Ainu yn bobl frodorol i ogledd Siapan, ac mae ganddynt eu hiaith, diwylliant a chrefydd unigryw eu hunain sy’n mynd nôl filoedd o flynyddoedd.

Fel rhan o’r ymweliad, cafwyd cyfle i gerdded drwy’r goedwig a gweld “Nyth y Ddaear”, sef darn unigryw o gelf gan Alison Neighbour sydd wedi ei leoli yng nghanol y coed ar ben y bryn.

Cafwyd hefyd y cyfle i weld rhai o’r artistiaid wrth eu gwaith, gan gynnwys Eirian Muse yn gwehyddu basgedi, Deio Colwyn Williams yn naddu llwyau pren - ac un ohonynt mewn siâp morfil - Gabriella Rhodes yn creu gwaith clai, a Deanne Doddington Mizen yn creu celf gwaith gwlân, llechi a phren.

Yn ogystal â’r profiadau creadigol, cafwyd cinio blasus yng nghaffi gwych yr Oriel, sef yr adeilad siâp anemoni môr sy’n swatio wrth y prif adeilad.

Roedd yn ysbrydoliaeth i weld a phrofi’r holl waith celf yma, mewn lleoliad cwbl ysbrydoledig a hudol.

Elin Walker Jones