Mae Côd Diogelwch Porthladdoedd a Chyfleusterau Morol yn sefydlu safon genedlaethol ar gyfer sicrhau diogelwch mewn porthladdoedd, harbyrau, marinas a chyfleusterau morol eraill.

Ei brif nod yw diogelu’r bobl sy’n gweithio neu’n defnyddio’r cyfleusterau hyn. Mae’r Côd wedi’i gynllunio i fod yn hyblyg, gan adlewyrchu’r gwahaniaethau rhwng sefydliadau o ran rolau, pwerau, risgiau a chyfrifoldebau, er mwyn gallu ei gymhwyso’n gymesur â gofynion lleol.

Cyflwynwyd y Côd yn 2000 yn sgil damwain y Sea Empress ym 1996, gyda mewnbwn parhaus gan y sector morwrol. Er nad yw cydymffurfio’n orfodol, disgwylir yn gryf i reolwyr porthladdoedd a chyfleusterau morol ymgorffori egwyddorion y Côd yn eu systemau diogelwch. Mae’r Côd hefyd yn nodi rhai cyfrifoldebau statudol, ond nid yw’n cwmpasu pob dyletswydd gyfreithiol berthnasol. Felly, mae’n hanfodol i sefydliadau sicrhau polisïau rheoli sydd yn gydlynol ar draws yr holl ofynion diogelwch a deddfwriaeth gymwys.

Gweld y Côd Diogelwch Porthladdoedd a Chyfleusterau Morwrol (yn agor mewn tab newydd)


System Rheoli Diogelwch Morwrol

Mae'r System Rheoli Diogelwch Morol (MSMS) yn allweddol i gyflawni’r swyddogaethau a ddisgrifir yn y Côd. Mae'n amlinellu sut bydd Cyngor Gwynedd yn hyrwyddo a hwyluso gweithrediadau diogel gan gychod a mordwyo diogel o fewn terfynau statudol ein harbyrau.


Cynllun Diogelwch Morwrol

Mae'r Cynllun Diogelwch Morol yn amlinellu’r gweithdrefnau, polisïau a chanllawiau sydd eu hangen i sicrhau gweithrediadau morol diogel ac effeithiol. Mae o wedi cael ei ddatblygu i fodloni gofynion Côd Diogelwch Morol Porthladdoedd ac yn cael eu hadolygu’n rheolaidd i sicrhau cydymffurfiaeth a gwelliant parhaus.

Gweld Cynllun Diogelwch Morwrol 2026-2029 (yn agor mewn tab newydd)


Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r Côd Morwrol, cysylltwch â’r Gwasanaeth Morwrol ar: