SOS #Galw Gofalwyr

Mae’r Cyngor yn galw am fwy o weithwyr gofal yng Ngwynedd. Ymunwch â’r tîm!

Mae swyddi ar gael yn y maes gofal. 'Ryda ni’n chwilio am bobl sydd....

  • isho gwneud gwahaniaeth
  • isho cefnogi pobl yn eu cymunedau
  • isho newid neu ddatblygu gyrfa yn y maes iechyd a gofal
  • yn barod i gamu 'mlaen i helpu mewn cyfnod o argyfwng.

Mae ymgyrch SOS #Galw Gofalwyr isho recriwtio mwy o staff i’r maes iechyd a gofal yn y gymuned. Mae swyddi llawn amser a rhan amser ar gael, gyda thelerau gwaith da ac oriau cyson.


Ymunwch â'r Tîm!

Mae wastad swyddi ar gael o fewn gwasanaethau Gofal y Cyngor yn ein hadrannau Plant a Chefnogi Teuluoedd ac Oedolion, Iechyd a Llesiant.

Gweld rhestr swyddi gwag

Dewch i ofalu yng Ngwynedd #SOSGalwGofalwyr

Beth amdani?
Byddem yn hapus iawn i gael sgwrs efo chi i drafod y cyfleon yn eich ardal chi.
Cysylltwch â Gill neu Elen am sgwrs ar 07384876908 neu ar e-bost: gofalu@gwynedd.llyw.cymru
Neu, gallwch lenwi’r Ffurflen Mynegi Diddordeb (yn agor mewn tab newydd) a byddwn yn cysylltu nôl efo chi’n fuan.

Mwy o wybodaeth

Dyma ychydig mwy o wybodaeth am y math o waith sydd ar gael, y buddiannau, a blas o beth sydd gan staff sy'n gwneud y swyddi yn barod i'w ddweud....

Straeon Staff

Mae’r Cyngor yn falch iawn o’r holl staff sy’n gweithio yn y maes gofal i oedolion, ac yn gwerthfawrogi eu hymroddiad, e’u brwdfrydedd a’u caredigrwydd.

Mae ein staff yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yng Ngwynedd pob dydd. Dyma sydd gan rai ohonynt i’w ddweud: