Os ydych yn meddwl bod person mewn perygl o gael eu cam-drin mae’n bwysig iawn gadael i'r Cyngor neu’r heddlu wybod.
Ffoniwch:
- 01766 772577 (Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant Cyngor Gwynedd)
neu
- 01248 353551 (rhif y tu allan i oriau arferol)
- Os yw'r unigolyn mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr heddlu'n syth - 999
Mathau o gamdriniaeth
- cam-drin corfforol: taro, ysgwyd, taflu, llosgi neu ddefnyddio meddyginiaeth i wneud drwg i rywun.
- cam-drin emosiynol: gwneud rhywun i deimlo'n ddiwerth, dweud bod neb yn eu caru, codi ofn - bygwth niwed, bod yn gas, ecsploetio i bwrpas rhyw neu waith.
- cam-drin rhywiol: gorfodi rhywun i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol, gorfodi rhywun i edrych ar a/neu greu deunydd pornograffig. Annog rhywun i ymddwyn mewn ffordd rywiol anaddas.
- esgeulustod: Peidio darparu bwyd, llety a dillad addas, peidio amddiffyn rhag niwed neu berygl corfforol, peidio sicrhau mynediad at olaf neu driniaeth feddygol; peidio sicrhau fod plentyn yn derbyn addysg reolaidd.
- camdriniaeth ariannol: gall oedolion ddioddef o ladrad, cael eu twyllo, pwysau ar gynnwys ewyllys neu bŵer twrnai.
- caethwasiaeth fodern (Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern: 08000121700)
Pa wybodaeth fyddai angen ei rannu?
- Beth yw eich pryder a sut ddaeth yn amlwg?
- Beth yw enw'r unigolyn sydd yn dioddef, ei ddyddiad geni, cyfeiriad a manylion y teulu? (os ar gael)
- Pwy sydd wedi achosi pryder i chi ac oes yna dystion eraill?
- Bydd eich galwad yn cael ei gofnodi a gwybodaeth am yr unigolyn yn cael ei wirio i weld a yw'n adnabyddus.
- Bydd gwybodaeth yn cael ei chasglu gan asiantaethau eraill sydd â chysylltiad posib gyda'r unigolyn.
- Ar sail y wybodaeth sydd ar gael bydd penderfyniad yn cael ei wneud i ymchwilio i'ch pryder.
- Gall hyn arwain at waith cynhwysfawr i amddiffyn yr unigolyn rhag dioddef niwed pellach.
Beth fydd yn digwydd wedyn?

Cofiwch: Os ydych yn credu fod trosedd wedi ei chyflawni mae angen hysbysebu'r Heddlu.