Os yw'r awdurdod lleol o'r farn fod arnoch angen cefnogaeth (neu'n debygol o fod angen cefnogaeth yn y dyfodol), mae'n rhaid iddynt asesu a oes angen cefnogaeth arnoch. Mae gennych hawl i dderbyn Asesiad Anghenion Gofalwyr ac i dderbyn copi o’r asesiad.

Os ydych yn teimlo'ch bod yn ofalwr, gallwch ofyn am asesiad gofalwr. Mae’n gyfle i chi drafod eich cyfrifoldebau gofalu â ni, fel y gallwn adnabod sut y gallech fanteisio ar gymorth neu wasanaeth ychwanegol.

Cewch benderfynu a ydych am gael eich asesu ar y cyd â'r person rydych yn gofalu amdano ynteu ar wahân.

Cymorth i gael y gorau o'ch asesiad (yn agor mewn tab newydd)


Gwneud cais am asesiad gofalwr

Os ydych wedi gwneud hunanasesiad (yn agor mewn tab newydd) ac yn teimlo eich bod angen asesiad gofalwr gan wasanaeth oedolion yna cysylltwch â ni.

Mae Gweithwyr Cymdeithasol a therapyddion galwedigaethol yn gallu trafod eich anghenion gan adnabod pa gefnogaeth fyddai’n ddefnyddiol, gan hefyd ystyried eich cryfderau personol a'r cymorth sydd ar gael i chi gan aelodau o'r teulu, ffrindiau ac eraill yn y gymuned.

Gwneud cais am asesiad

Beth mae asesiad gofalwr yn ei olygu?

Bydd gweithiwr cymdeithasol yn trafod efo chi er mwyn canfod pa help rydych ei angen fel gofalwr, a beth sy'n bwysig i chi fel gofalwr. Gallwch hefyd drafod unrhyw broblemau neu drafferthion. Efallai y byddwch eisiau trafod pethau fel:

  • ydych chi'n cael digon o gwsg?
  • ydi gofalu'n effeithio ar eich iechyd?
  • ydych chi'n cael cyfle i grwydro neu fynd am dro?
  • ydych chi'n cael amser i chi'ch hun?
  • ydych chi'n poeni am orfod rhoi'r gorau i'r gwaith?

Bydd yr asesiad yn nodi pa fath o help rydych ei angen a sut gallwch ei gael. Byddwch yn cael copi o’r asesiad.


Pa help ydw i'n debygol o'i gael?

Gall y gefnogaeth sydd ar gael gynnwys seibiant o ofalu, mynediad at hyfforddiant, gwahoddiadau i ddigwyddiadau gofalwyr a chael eich cyfeirio at wasanaethau perthnasol.

Dylid nodi bod meini prawf cymhwysedd yn golygu nad yw pob gofalwr yn gymwys i dderbyn gwasanaeth yn uniongyrchol gan y Cyngor.

Os oes gennych unrhyw bryder neu gwestiwn, cofiwch ofyn!

Cymorth i gael y gorau o'ch asesiad (yn agor mewn tab newydd)