Asesiadau diagnostig
Os ydych yn amau bod chi neu eich plentyn yn awtistig, y cam cyntaf yw siarad efo’ch meddyg teulu, yr ysgol neu ymwelwyr iechyd.
Bydd y sgwrs/apwyntiad yma yn gyfle i chi
- adrodd y rhesymau yr ydych yn meddwl eich bod chi neu’r person arall yn awtistig.
- gofyn am gyfeiriad am asesiad awtistiaeth.
Mae'n bosib y byddant yn eich helpu i lenwi ffurflen yn cofnodi eich profiadau, anawsterau a phryderon, ac yn llofnodi eich caniatâd i fynd ymlaen efo’r cyfeiriad. Bydd yr asesiad awtistiaeth yna cael ei gynnal gan arbenigwr mewn awtistiaeth.
Cliciwch ar y penawdau isod am fwy o wybodaeth am asesiadau:
Mynediad at wasanaethau cymdeithasol Gwynedd - Asesiadau gofal a chymorth
Weithiau mae angen gofal a chefnogaeth ar bobl gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. Gall Cyngor Gwynedd ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i unigolion awtistig, eu teuluoedd a gofalwyr di-dâl. Am sgwrs bellach cysylltwch â'r Tîm Awtistiaeth:
- awtistiaeth@gwynedd.llyw.cymru
- 01766 772570
Gwybodaeth am eich hawliau
- Gweld Gwybodaeth Hanfodol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru 2014 (llyw.cymru) (yn agor mewn tab newydd)
- Gweld Côd Ymarfer ar gyfelenwi gwasanaethau awtistiaeth (llyw.cymru) (yn agor mewn tab newydd)