Mae seremoni enwi yn opsiwn ar gyfer rhai sydd ddim eisiau cynnal seremoni fedyddio grefyddol.
Nid oes gan y seremonïau hyn statws cyfreithiol. Bydd cofrestrydd yn cynnal y seremoni a byddwch yn derbyn tystysgrif goffäol. Mae'n bosib cynnwys eich dewis o ddarlleniadau a cherddoriaeth yn y seremoni. Ond, nid yw'n bosib cynnwys darlleniadau na cherddoriaeth grefyddol.
I drefnu seremoni enwi neu am fwy o wybodaeth, ffoniwch: 01766 771000
Ble allwn ni gynnal seremoni enwi?
Mae’n bosib cynnal seremoni enwi mewn:
- un o ystafelloedd seremoni swyddfeydd cofrestru'r Cyngor
- gwesty neu eiddo wedi’i gymeradwyo o fewn y sir.
Pryd a sut mae talu?
Bydd angen talu ffi na all gael ei ad-dalu er mwyn cadarnhau'r dyddiad a'r lleoliad gyda'r gwasanaeth cofrestru. Ni fydd modd ad-dalu'r arian hwn os bydd y seremoni yn cael ei gohirio.
Gallwch dalu gweddill yr arian unai i'r cofrestrydd pan fyddwch yn cwrdd o flaen llaw i drafod y seremoni neu ar ddiwrnod y seremoni.
Gallwch dalu gydag arian parod, cerdyn debyd neu gredyd, archeb bost neu siec yn daladwy i 'Cyngor Gwynedd'.