Gall marwolaeth rhywun sy’n agos atoch achosi gofid mawr a gall y camau rhwng y farwolaeth a’r claddu neu’r amlosgi fod yn brofiad llethol. Mae’r wybodaeth ganlynol yn rhoi trosolwg o’r broses ar gyfer cofrestru marwolaethau yng Nghymru a chanllawiau ar yr hyn y dylid ei ddisgwyl pan fydd rhywun yn marw.

Y broses

Mwy o wybodaeth

Cymorth pellach

Waeth beth yw’r rheswm pam y mae rhywun wedi marw, gall dod i delerau â’r hyn sydd wedi digwydd fod yn arbennig o anodd. Mae pobl yn profi galar mewn gwahanol ffyrdd ac efallai y bydd ar rai eisiau neu angen cefnogaeth ychwanegol yn ystod y cyfnod hwn.

Mae rhagor o wybodaeth am gymorth a chefnogaeth ar gael ar wefan eich bwrdd iechyd lleol (yn agor mewn tab newydd)

Mae gwefan Llywodraeth y DU yn cynnwys canllaw manwl am y camau ychwanegol sydd angen eu cymryd pan fydd rhywun yn marw, gan gynnwys hysbysu adrannau perthnasol y llywodraeth ac ymdrin ag ystâd yr ymadawedig.

Cysylltu â ni

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01766 771000