Daeth yr arolwg yma i ben ar y 30 Tachwedd, 2025
Pwrpas yr arolwg
Fel rhan o'r broses o baratoi Strategaeth Gwastraff ac Ailgylchu Gwynedd, roedd y Cyngor yn awyddus i glywed eich barn am Strategaeth Gwastraff ac Ailgylchu ddrafft Cyngor Gwynedd a’r gwasanaeth yn gyffredinol.
Gweld Strategaeth Gwastraff ac Ailgylchu Cyngor Gwynedd (drafft) (yn agor mewn tab newydd)
Y strategaeth hon fydd yn siapio gwasanaethau gwastraff lleol Gwynedd hyd at y flwyddyn 2030. Ei phrif amcanion ydi:
- Lleihau faint o wastraff sy'n cael ei gynhyrchu gan ein trigolion a busnesau
- Annog pobl i ail-ddefnyddio a thrwsio pethau cyn eu taflu
- Ailgylchu, ailddefnyddio a chompostio o leiaf 70% o’r gwastraff a gynhyrchir i gyflawni targedau’r Llywodraeth
- Darparu Gwasanaeth Casglu Gwastraff ac Ailgylchu o ansawdd uchel ble mae diogelwch, lles a gwerthoedd ein staff, yn ogystal â gofal a bodlonrwydd cwsmeriaid, yn rhan annatod o'n hegwyddorion craidd
- Creu Gwasanaeth Gwastraff sy'n garbon niwtral (e.e. defnyddio cerbydau allyriadau carbon isel a lleihau gwastraff yn gyffredinol)
- Buddsoddi yn ein safleoedd trin gwastraff er mwyn gallu delio efo mwy o wastraff yn lleol.
Cyfnod ymgynghori
8 Hydref 2025 - 30 Tachwedd 2025.
Camau nesaf
Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, cymeradwywyd y Strategaeth Gwastraff ac Ailgylchu yng nghyfarfod Cabinet Cyngor Gwynedd ar 7 Gorffennaf, 2026. I ddarllen mwy neu i wylio gweddarllediad o’r penderfyniad, ewch i Rhaglen ar gyfer Y Cabinet ar Dydd Mawrth, 7fed Gorffennaf, 2026, 1.00 y.h. (yn agor mewn tab newydd) (Eitem 8).