Mae'r arolwg yma wedi dod i ben.
Pwrpas yr arolwg
Roedd Arolwg Gwynedd yn gyfle i bobl leol ddweud eu dweud ar yr ystod o wasanaethau sy’n cael eu darparu gan y Cyngor – o drafnidiaeth, i dai, i gasgliadau gwastraff a mwy.
Drwy gynnal yr ymarferiad hwn, bwriad Cyngor Gwynedd oedd cael gwell dealltwriaeth am:
- Yr hyn sy’n bwysig i drigolion Gwynedd
- Sut le ydi Gwynedd i fyw a phrofiad pobl o’r ardal leol
- Sut mae trigolion yn teimlo am y Cyngor ac yn rhyngweithio â’r Cyngor.
Cyfnod yr arolwg
13 Chwefror 2025 - 24 Mawrth 2025.
Cydweithiodd Cyngor Gwynedd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Data Cymru sydd wedi datblygu’r arolwg cenedlaethol hwn.