Mae'r cyfnod ymgynghori wedi dod i ben.
Pwrpas dros ymgynghori
Mae bwriad diweddaru polisi codi tâl am ofal Cyngor Gwynedd (yn agor mewn tab newydd)er mwyn sicrhau fod y polisi yn parhau i gyd fynd â gofynion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy’n mynnu nad yw unrhyw un talu mwy nag y gallant fforddio’n rhesymol. Mae gofyn ar y Cyngor i adolygu ei ffioedd yn amserol er mwyn sicrhau fod y ffioedd sy’n cael eu codi yn adlewyrchu’r costau gwirioneddol o ddarparu gwasanaethau.
Cyfnod ymgynghori
Tachwedd 2024 - 23 Rhagfyr 2024
Canlyniadau'r ymgynghoriad a chamau nesaf
Mae'r prif ganlyniadau fel y ganlyn:
- Roedd 73 ymateb i’r ymgynghoriad.
- Roedd 38% o’r ymatebwyr yn aelod teulu defnyddiwr gwasanaethau gofal, 33% yn arall, 25% yn ofalydd di-dâl a 4% yn ddefnyddiwr gwasanaethau gofal.
- Roedd 55% yn ymwybodol o bolisi codi tâl am ofal Cyngor Gwynedd, a’r gwasanaethau gofal hynny lle mae ffi’n cael ei godi ar hyn o bryd, 45% ddim yn ymwybodol.
- Roedd 15 o ymatebwyr wedi nodi sylwadau i gyd-fynd gyda’r cwestiwn yma, y thema fwyaf cyffredin oedd fod y Cyngor heb gysylltu gyda teuluoedd na gofalwyr neu wedi clywed gan eraill.
- Roedd 72% o’r ymatebwyr wedi dewis ‘nac ydi’ fel ymateb i’r cwestiwn os yw'r polisi codi tâl yn ei gwneud yn eglur pa ffioedd mae'n rhaid i ofalwyr di-dâl eu talu, a 28% wedi dewis ‘ydi’.
- Roedd 14 o ymatebwyr wedi nodi sylwadau i gyd-fynd gyda’r cwestiwn yma, y thema fwyaf cyffredin oedd aneglur/ddim yn deall y polisi.
- Roedd 71% o ymatebwyr wedi dewis dylai barhau y polisi lle nid yw’r Cyngor wedi bod yn codi ffi am ofal uniongyrchol i ofalwyr di-dal (lle bo’r gwasanaeth yn enw’r gofalydd), 14% wedi dewis na ddylai a 15% dim barn cryf.
- Roedd 17 o ymatebwyr wedi nodi sylwadau i gyd-fynd gyda’r cwestiwn yma, y thema fwyaf cyffredin oedd byddai codi tal yn cosbi gofalwyr yn ariannol / gofalwyr methu fforddio talu.
- Roedd 71% o’r ymatebwyr wedi ymateb na ddylai’r Cyngor godi ffi am wasanaethau cefnogol Iechyd Meddwl i unigolion sydd ddim yn dod o dan Adran 117 o’r ddeddf Iechyd Meddwl, gyda 21% wedi nodi dylai a 8% dim barn cryf.
- Roedd 15 o ymatebwyr wedi nodi sylwadau i gyd-fynd gyda’r cwestiwn yma, y thema fwyaf cyffredin oedd dylasai fod am ddim.
- Fel ymateb i’r cwestiwn ‘os bydd y Cyngor yn codi ffi am fynychu gwasanaethau dydd, dylai’r ffi gael ei godi drwy:’ roedd 42% wedi dewis ffi ‘fflat’ nominal yn daladwy gan bawb, 39% wedi dewis ffi sydd yn ariannu cost y gwasanaeth yn llawn, ond fod gan bawb yr hawl i asesiad i bennu eu cyfraniad (hyd at yr uchafswm presennol o £100 yr wythnos), ac 18% dim barn cryf.
- Roedd 26 o ymatebwyr wedi nodi sylwadau i gyd-fynd gyda’r cwestiwn yma, y thema fwyaf cyffredin oedd dylasai fod am ddim / anghytuno gyda codi ffi.
- Roedd 51% o ymatebwyr wedi dewis na ddylai’r Cyngor godi ffi am drafnidiaeth sydd ddim yn gymwys o dan rhan 4 ag 5 o’r Cod Ymarfer (2014), gyda 32% yn dewis dylai a 17% yn dewis dim barn cryf.
- Roedd 14 o ymatebwyr wedi nodi sylwadau i gyd-fynd gyda’r cwestiwn yma, y thema fwyaf cyffredin oedd yn darparu eu trafnidiaeth eu hunain yn barod.
- Roedd 48% o ymatebwyr wedi dewis y fyddai y newidiadau yn cael effaith negyddol neu ychydig o effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg, y cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg a'i statws o fewn y gymuned, tra fod 44% wedi dewis dim effaith, a 7% wedi dewis effaith gadarnhaol neu ychydig o effaith gadarnhaol.
- Roedd y mwyafrif 69% wedi dewis y fyddai y newidiadau yn cael effaith negyddol neu ychydig o effaith negyddol ar bobl sy’n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol, tra fod 17% wedi dewis dim effaith, a 14% wedi dewis effaith gadarnhaol neu ychydig o effaith gadarnhaol.
- Lle yn briodol, mae dadansoddiad pellach wedi cael ei wneud i ddangos ymateb i’r cwestiynau a ofynnwyd yn yr arolwg fesul ymateb i’r cwestiwn ‘Y ydych yn:’. Mae’r dadansoddiad yma wedi cael ei gynnwys yn Atodiad A. Gan fod nifer ymatebwyr yn rhai o’r grwpiau yn isel mae angen cymryd gofal wrth edrych ar y dadansoddiad yma.
Bydd canlyniadau yr ymgynghoriad yn bwydo mewn i argymhellion o addasiadau i'r polisi fydd yn mynd gerbron cabinet y Cyngor yn fuan yn 2025.