Newidiadau posib i'r system bleidleisio ar gyfer ethol Cynghorwyr Sir

Pwrpas dros ymgynghori

Os ydy Cyngor Gwynedd eisiau symud i System Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer Etholiad nesaf Cyngor Gwynedd yn 2027, rhaid penderfynu cyn 15 Tachwedd 2024.

Gwnaeth y Cyngor Llawn y penderfyniad terfynol mewn cyfarfod arbennig ym mis Hydref 2024.

Cyn penderfynu i gadw’r system bresennol (System Mwyafrif Sengl) neu newid i system newydd (Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy), fe wnaethom ymgynghori efo etholwyr Gwynedd i weld beth oedd eu barn.

Cyfnod ymgynghori

15 Gorffennaf 2024 - 15 Medi 2024.

Canlyniadau a chamau nesaf

Gweld adroddiad a phenderfyniad y Pwyllgor Llawn (yn agor mewn tab newydd)