Mae'r cyfnod ymgynghori wedi dod i ben ac mae'r canlyniadau bellach ar gael.
Pwrpas dros ymgynghori
Mae Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA), yn gweithio ar ran Llywodraeth Cymru, wedi ymgynghori ar gynigion i’w gwneud yn fwy diogel, yn haws ac yn fwy cyfleus i bobl gerdded, olwyno a beicio ger Cylchfan y Faenol ar yr A487. Cefnogodd Mott MacDonald a Chyngor Gwynedd NMWTRA i gyflawni'r cynllun hwn.
Nod y cynllun hwn oedd i wella’r seilwaith teithio llesol ar Gylchfan y Faenol ac ar ffyrdd dynesu’r B4547 a’r A487 Allt y Faenol.
Mae manylion llawn am y cynllun sy'n cael ei ystyried i'w gweld yn y ddogfen ymgynghori a'r fersiwn hawdd ei darllen isod:
- Dogfen ymgynghori: Manylion am y cynllun (yn agor mewn tab newydd)
- Dogfen ymgynghori: Fersiwn hawdd i'w darllen (yn agor mewn tab newydd)
Cyfnod ymgynghori
12 Medi 2024 - 10 Hydref 2024.