Mae'r cyfnod ymgynghori wedi dod i ben.
Pwrpas dros ymgynghori
Ar ôl i Llywodraeth Cymru gyhoeddi’r cod ymarfer ar gyfer awtistiaeth Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth (llyw.cymru) (yn agor mewn tab newydd) mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i ymgysylltu ag unigolion awtistig a’u teuluoedd wrth ddatblygu gwasanaethau awtistiaeth ar draws y sir.
Nod yr holiadur oedd i gasglu data am y gwasanaethau sydd yn cael eu darparu yn eich ardal chi ar hyn o bryd.
Bydd eich ymateb a’ch barn yn gymorth mawr i ni asesu beth sydd yn gweithio yn dda, meysydd i’w gwella, ac unrhyw fylchau sydd angen sylw.
Cyfnod ymgynghori
4 Mawrth 2024 - 14 Ebrill 2024
Cysylltu â ni
Er mwyn derbyn mwy o wybodaeth am unrhyw cymorth awtistiaeth, neu os oes gennych gwestiwn neu sylw am yr arolwg yma, cysylltwch â ni:
- E-bost: Awtistiaeth@gwynedd.llyw.cymru
- Rhif ffôn: 01766772570