Cliciwch ar bennawd i gael darllen am arolygon neu ymgynghoriadau a gynhaliwyd yn 2023
Pwrpas dros ymgynghori?
Mae gan Wasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd, sy’n cynnwys Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant ac Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd, rwymedigaeth statudol i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac oedolion. Mae’r gwasanaethau yn grymuso trigolion i reoli eu bywydau eu hunain; hybu annibyniaeth; cefnogi cynhwysiant cymdeithasol a'u cyfranogiad mewn cymdeithas; a hyn oll wrth helpu pobl i gadw'n ddiogel ac yn iach.
Rhan fawr o wneud y gwaith hwn yw cyfathrebu gyda chi; defnyddwyr gwasanaeth, eu teuluoedd a thrigolion y sir. Felly, credwn ei fod yn holl bwysig deall beth yw eich barn chi ar ein cyfathrebu presennol. Roeddem yn awyddus i glywed eich meddyliau er mwyn deall beth yw’r ffyrdd orau a mwyaf addas i ni gyfathrebu â chi yn y dyfodol.
Cyfnod Ymgynghori
13.11.23 – 22.12.23
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:
- E-bost: Sianip@gwynedd.llyw.cymru
- Rhif ffôn: 01286679223
Pwrpas dros ymgynghori?
Roedd Cyngor Gwynedd wedi gosod rhybudd Cyfarwyddyd Erthygl 4 ac yn awyddus i glywed eich barn.
Cyfnod ymgynghori
2 Awst 2023 a 13 Medi 2023.
Camau nesaf
Pwrpas dros ymgynghori?
Mae Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Gwynedd yn cydweithio i’w gwneud yn haws, mwy diogel a chyfleus i bobl gerdded, beicio neu deithio ar olwynion ym Mangor. Nod y cynllun hwn yw gwella seilwaith teithio llesol ar hyd Ffordd Penrhos rhwng Cylchfan Y Faenol a Gorsaf Drenau Bangor.
Darparodd y Cyngor manylion y gwelliannau posib, ac roeddem yn awyddus i ystyried adborth ar y welliannau yma i helpu i barhau i esblygu’r dyluniadau.
Cyfnod ymgynghori
27 Ebrill 2023 - 4 Mehefin 2023
Camau nesaf
Pwrpas dros ymgynghori?
Dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, rhaid i’r Cyngor annog pobl leol i gyfranogi pan mae’n gwneud penderfyniadau a chyhoeddi Strategaeth Cyfranogiad sy’n nodi’r ffyrdd y caiff pobl leol eu hannog i gymryd rhan ym mhroses y Cyngor o wneud penderfyniadau.
Cyfnod ymgynghori
6 Ionawr 2023 - 23 Ionawr 2023
Canlyniadau a chamau nesaf
Diolch i bawb wnaeth gyflwyno sylwadau ar y Strategaeth cyfranogiad ddrafft.
Mae canlyniadau’r ymgynghoriad ar gael i'w gweld mewn adroddiad i Gabinet Cyngor Gwynedd ar 14/02/2023.
Canlyniadau Ymgynghoriad Strategaeth Cyfranogiad (yn agor mewn tab newydd)
Cafodd y Strategaeth ei chyflwyno i'r Cyngor llawn ar gyfer ei mabwysiadu ar 02/03/2023
Pwrpas dros ymgynghori?
Pwrpas yr ymgynghoriad yma oedd casglu barn y cyhoedd am gynnwys y strategaeth iaith ddrafft (yn agor mewn tab newydd).
Cyfnod Ymgynghori
3 Ebrill 2023 a 21 Mai 2023
Camau Nesaf
Diolch i bawb wnaeth gyflwyno sylwadau ar y Strategaeth Iaith ddrafft. Mae'r strategaeth derfynol wedi cael ei gyhoeddi ar y dudalen yma: Strategaeth Iaith Gwynedd
Ar ôl y cyfnod ymgynghori, cafwyd crynodeb o’r sylwadau a’r syniadau eu cyflwyno i Bwyllgor Iaith y Cyngor.
Pwrpas dros ymgynghori?
Roedd 2019 yn drobwynt o ran cydnabod yr argyfwng natur gynyddol a chynyddu camau gweithredu ar gyfer bioamrywiaeth.
Mewn ymateb, cyhoeddwyd y Cynllun Gweithredu Adfer Natur Genedlaethol gan Lywodraeth Cymru, a rhan 1, “Ein strategaeth ar gyfer Natur”, yn nodi’r ymrwymiad i wrthdroi’r golled mewn bioamrywiaeth yng Nghymru a’r amcanion ar gyfer gweithredu (cyfanswm o 6 amcan).
Gofynwyd Llywodraeth Cymru i bob Awdurdod Lleol, Parc Cenedlaethol ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ledled Cymru i gynhyrchu Cynllun Gweithredu eu hunain, yn manylu ar sut y dylai pob ardal fynd i'r afael ac adfer natur.
Cyfnod Ymgynghori
28 Ebrill 2023 - 31 Mai 2023