Cyfnod ymgynghori: 3 Medi 2026 - 26 Tachwedd 2026.
Mae trigolion ledled Gwynedd yn cael eu gwahodd i rannu eu barn ar sut y gellir gwneud cerdded, olwyno a beicio yn fwy diogel, yn haws ac yn fwy hygyrch i bawb fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus newydd ar Fap Rhwydwaith Teithio Llesol y Sir yn y dyfodol.
- Cerdded – Os ydych yn cerdded i'r gwaith, yr ysgol, y siopau neu am dro hamdden, mae eich profiadau'n bwysig. Rhannwch eich barn a helpwch ni i wneud cerdded yng Ngwynedd yn fwy diogel, cyfleus a chroesawgar i bawb.
- Olwyno - Os ydych yn defnyddio cadair olwyn, sgwter symudedd neu gymorth symudedd arall, rydym am glywed eich profiadau. Dywedwch wrthym os oes rhwystrau yr ydych yn eu hwynebu, a'r gwelliannau a allai wneud teithio o gwmpas Gwynedd yn haws ac yn fwy hygyrch.
- Beicio – Os ydych yn beicio'n ddyddiol neu yn achlysurol, gall eich adborth helpu i lunio rhwydwaith beicio gwell ar gyfer y dyfodol. Rhannwch eich syniadau ar sut y gallwn greu llwybrau beicio mwy diogel, cysylltiedig a deniadol i bobl o bob oed a gallu.
Rheswm dros ymgynghori
O dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, mae’n ofynnol i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru gyflwyno Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol wedi’u diweddaru i Lywodraeth Cymru. Mae’r mapiau hyn yn cefnogi’r gwaith o gynllunio, cyflawni ac ariannu cynlluniau teithio llesol, gan helpu i greu rhwydweithiau teithio mwy integredig, hygyrch a chynaliadwy ar gyfer teithiau bob dydd.
Anogir trigolion, busnesau a grwpiau cymunedol i rannu eu barn ar y llwybrau presennol a chynnig syniadau ar gyfer llwybrau cerdded, olwyno a beicio newydd neu welliannau i’r rhwydwaith.
Dweud eich dweud
Ymgynghoriad Teithio Llesol: Gweld mwy a dweud eich dweud (yn agor mewn tab newydd)Dyddiad cau: 26 Tachwedd 2026
Mae rhagor o wybodaeth am gerdded, olwyno a beicio yng Ngwynedd hefyd ar gael yma: Teithio llesol (yn agor mewn tab newydd)
I dderbyn copi papur drwy'r post, cysylltwch â ni:
- 01286 679426
- ygc@gwynedd.llyw.cymru (yn agor mewn tab newydd)
Bydd yr holl sylwadau yn cael eu hystyried wrth i ni ddatblygu a chynllunio gwelliannau i rwydwaith cerdded, olwyno a beicio Gwynedd yn y dyfodol, lle bo hynny’n bosibl ac yn ymarferol.